Anna Ryder Richardson
Fe fydd  y perchennog parc bywyd gwyllt a chyn-gyflwynydd teledu Anna Ryder Richardson yn sefyll ei phrawf yn Llys y Goron fis nesaf ar ôl iddi hi a’i gŵr wadu torri rheolau iechyd a diogelwch yn y parc.

Mae Anna Ryder Richardson, 48, a’i gŵr Colin MacDougall, 46, yn wynebu dau gyhuddiad dan ddeddf iechyd a diogelwch 1974 ar ôl i gangen o goeden gwympo ar ben bachgen a’i fam a oedd ar ymweliad â’r parc ym mis Awst 2010.

Plediodd Anna Ryder Richardson a Colin MacDougall yn ddieuog i’r cyhuddiadau’r mis diwethaf mewn gwrandawiad yn Hwlffordd. Heddiw, fe benderfynodd Llys Ynadon Hwlffordd y dylai’r achos gael ei glywed yn Llys y Goron ar 29 Fehefin.

Mae’r cwpl yn rhedeg Parc Bywyd Gwyllt Manor House ger Dinbych y Pysgod.

Anafiadau difrifol

Cafodd Gruff Davies-Hughes, 3 oed, o Lanelli anafiadau difrifol i’w ben ar ôl i gangen gwympo arno mewn gwyntoedd cryfion. Fe dreuliodd tridiau yn yr uned ofal dwys ar ôl cael ei gludo i’r ysbyty mewn hofrennydd.

Roedd ei fam Emma Davies-Hughes, 28, hefyd wedi cael anafiadau i’w phen, ei choes, pelfis a’i braich yn  y digwyddiad.

Roedd Ryder Richardson, sy’n fam i ddau o blant, yn enwog am gymryd rhan yn y rhaglen BBC Changing Rooms gyda Laurence Llewelyn-Bowen. Fe roddodd y gorau i’w gyrfa deledu yn 2008 a phrynu safle’r parc 52 acer gyda’i gŵr.

Mae’r achos yn cael ei ddwyn gan isadran diogelu’r cyhoedd Cyngor Sir Benfro.