Meryl Gravell
Mae clymblaid wedi ei ffurfio rhwng grwp Llafur a chynghorwyr Annibynnol yn Sir Gaerfyrddin.

Fe ddaeth y cyhoeddiad heddiw yn dilyn trafodaethau wedi etholiadau Mai 3. Am wyth mlynedd cyn hynny, fe fu Llafur yn cydweithio gyda grwp o gynghorwyr Annibynnol, ond mae pethau wedi newid ychydig ers i Lafur sicrhau 23 o gynghorwyr, ac wedi i 21 o gynghorwyr Annibynnol gael eu hethol.

Mae’n golygu mai o blith grwp Llafur y bydd Arweinydd newydd y Cyngor yn dod, a bydd y Cynghorydd Meryl Gravell, yr arweinydd Cyngor sydd wedi bod yn ei swydd hiraf trwy Gymru, yn rhoi’r gorau iddi ar ôl 13 mlynedd.

Mae’r cytundeb diweddaraf hwn, dros gyfnod o 12 mis, yn un fydd yn cael ei adolygu ymhen blwyddyn. Fe fydd grwp Llafur yn cyfarfod heno (nos Lun) i ddewis Arweinydd a Dirprwy Arweinydd, a bydd cyhoeddiadau pellach ynglyn â’r Bwrdd Rheoli yn cael eu gwneud yn fuan.

Cario ymlaen â’r gwaith da’

“Rwy’ wrth fy modd ein bod ni wedi llwyddo i ffurfio clymblaid newydd gyda’r cynghorwyr Annibynnol,” meddai arweinydd presennol y grwp Llafur, y Cynghorydd Kevin Madge. “Allwn ni nawr gario ymlaen â’r gwaith r’yn ni wedi ei wneud dros yr wyth mlynedd diwetha’ ar ran pobol Caerfyrddin – yn yr ardaloedd gwledig ac yn y trefi.

“R’yn ni’n edrych ymlaen at ddelifro mwy o wasanaethau o’r radd flaenaf, cryfhau a gwella ymhellach ein cynlluniau addysg, a chydweithio gyda Llywodraeth Cymru.”

‘Dirmygu democratiaeth’

Ond mae Plaid Cymru wed cyhuddo’r grwpiau Llafur ac Annibynnol ar Gyngor Sir Caerfyrddin  o ddirmygu’r broses ddemocrataidd yn llwyr trwy ffurfio gweinyddiaeth sy’n eithrio Plaid Cymru.

“Mae hyn yn sarhau’r 30,000 o etholwyr yn Sir Gaerfyrddin a bleidleisiodd i ni ar Fai 3,” meddai arweinydd grŵp y Blaid, Peter Hughes Griffiths.

“Rwy’n siŵr y bydd miloedd o bobl a bleidleisiodd i’r Annibynwyr hefyd yn siomedig iawn bod eu cynghorwyr wedi penderfynu cefnogi’r Blaid Lafur, a’i galluogi i arwain y cyngor.”

“Ar ôl ymladd prin fwy na hanner y 74 o seddi, cynllwyniodd y Blaid Lafur i arwain y cyngor, a hynny heb drafferthu i geisio mandad gan nifer sylweddol o bleidleiswyr y sir.”

Plaid Cymru, gyda 28 o seddi, yw’r grŵp mwyaf ar y cyngor ac, yn unol â’i addewid maniffesto, cynigodd rannu’r weinyddiaeth gyda’r ddau grŵp arall.

“Ond trwy uno, a gwrthod rhoi’r un sedd ar y Bwrdd Gweithredol i Blaid Cymru, mae’r Annibynwyr a’r Blaid Lafur wedi dangos dirmyg llwyr tuag y broses ddemocrataidd a thuag at bleidleiswyr Sir Gaerfyrddin,” meddai Peter Hughes Griffiths.