Peter Hain
Mae arweinydd y Blaid Lafur wedi bod yn rhoi teyrnged i Peter Hain a gyhoeddodd y bore ma ei fod yn ymddeol o gabinet yr wrthblaid yn San Steffan.

Mae’r  Aelod Seneddol dros Gastell-nedd wedi dweud ei fod am ganolbwyntio ar ymgyrchu dros gynllun i adeiladu Morglawdd dros Afon Hafren.

Ar ei gyfrif Twitter y bore ‘ma dywedodd Peter Hain mai Morglawdd yr Hafren fydd y prosiect buddsoddi mwyaf yn y Deyrnas Gyfunol ac mai hwn yw’r “cyfraniad mwyaf gallaf i ei wneud ar hyn o bryd.”

Dywedodd Ed Miliband bod Peter Hain wedi gwneud cyfraniad sylweddol i’r fainc flaen dros y 16 mlynedd ddiwethaf.

“Bu’n ymgyrchydd diflino dros Gymru dros y tair blynedd diwethaf fel Ysgrifennydd Cymru a llefarydd yr wrthblaid.

“Fe fydd yn golled fawr i gabinet yr wrthblaid ond ry’n ni’n gwybod y bydd ei gyfraniad i Gymru a’r Blaid Lafur yn parhau am nifer o flynyddoedd i ddod,” meddai.

‘Rhannu’r un uchelgais’

Mae Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, hefyd wedi dweud y bydd hi’n gweld eisiau Peter Hain.

A hithau ar ymweliad pum niwrnod â Gwlad Thai, fe dalodd deyrnged i’r gwleidydd y mae hi wedi gweithio ochr-yn-ochr ag ef ers blynyddoedd.
“Mae Peter Hain wedi cael gyrfa wleidyddol hir a llwyddiannus, mewn sawl adran,” meddai. “Rydan ni wedi bod yn cysgodi’n gilydd dros nifer o flynyddoedd yng Nghymru ac yn y Swyddfa Dramor, ac mi fydda’ i’n gweld ei golli.

“Er gwaethaf ein hanghydweld gwleidyddol, rydw i’n gwybod ein bod ni’n dau yn rhannu’r un uchelgais o wneud y gorau tros Gymru.
“Rydw i’n edrych ymlaen at gydweithio yn adeiladol gyda’i olynydd wrth geisio rhoi buddiannau Cymru yn gyntaf,” meddai.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones bod Peter Hain wedi chwarae rôl flaenllaw ym mywyd gwleidyddol Cymru  am nifer o flynyddoedd ac wedi dymuno pob llwyddiant iddo yn y dyfodol.

Mae Chris Bryant, Kevin Brennan ac Owen Smith yn cael eu hystyried yn geffylau blaen o ran canfod olynydd i Peter Hain yn llefarydd Cymru.