John Griffiths
Heddiw, mae Gweinidog Amgylchedd Llywodraeth Cymru, yn cyhoeddi ei weledigaeth ar gyfer gwella amodau byw pobol sy’n byw yn ardaloedd tlotaf y wlad.

Fe fydd John Griffiths yn cyhoeddi cynllun i weithio gyda chymunedau er mwyn gwneud y mwyaf allan o fudd-daliadau sydd ar gael ar hyn o bryd. Y bwriad ydi gwneud yn siwr fod cynifer o bobol â phosib yn gallu trawsnewid eu hamgylchedd eu hunain, a chael cymaint o gefnogaeth â phosib yn y broses.

Mae cynllun grant newydd gwerth £500,000 yn cael ei lansio heddiw hefyd. Fe fydd awdurdodau lleol ar hyd a lled Cymru yn gallu bidio am gyfran o’r arian yn y pot er mwyn ariannu prosiectau sy’n lleihau llygredd swn a llygredd yn yr aer, yn ogystal â datblygu ardaloedd gwyrdd.

Bydd y Gweinidog yn cyhoeddi’r cynlluniau newydd wrth annerch cynulleidfa o tua 200 o gynrychiolwyr cyrff cyhoeddus yng nghynhadledd Environment Matters? yn stadiwm SWALEC, Caerdydd.

Fe fydd nifer o ardaloedd trefol ar hyd a lled Cymru yn cymryd rhan yng nghyfnod prawf y cynllun, ac mae’r rheiny’n cynnwys Wrecsam, Caergybi, Abertawe a Chaerdydd.

“Yn ystod cyfnod anodd yn ariannol, fe all llywodraethau gael eu temtio i ganolbwyntio ar flaenoriaethau economaidd, ac anghofio am eu cyfrifoldebau amgylcheddol a chymdeithasol,” meddai John Griffiths.

“Ond, yng Nghymru, rydyn ni’n credu fod lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol yn gysylltiedig â’i gilydd,” meddai. “Allwch chi ddim aberthu yr un o’r rheina heb gael effaith ar y tri. Dyna mae ein cyfrifoldeb tuag at ddatblygiad cynaliadwy yn ei gydnabod.”

Beth yw’r cynllun?

Fe fydd rhai cynlluniau cymunedol yn cael eu dwyn ynghyd er mwyn gallu cynnig gwell gwasanaeth i gymunedau, yn ôl John Griffiths. Trwy dorri i lawr ar waith papur wrth wneud ceisiadau gwahanol, bydd modd cyrraedd at ganol y cymunedau.

Bydd y cynlluniau newydd yn rhoi pwyslais ar ddatblygu sgiliau, creu swyddi, creu cyfleoedd gwirfoddoli, a chreu mwy o ymdeimlad o gymuned.

“Rwy’n pryderu fod ansawdd bywyd ein cymunedau tlotaf, yn enwedig y rheiny sy’n byw mewn ardaloedd dinesig a threfol, yn wael iawn, yn cynnwys byw â sbwriel, ffyrdd peryglus, lefelau uchel o lygredd, a dim cymaint o gyfleoedd i gael at ardaloedd gwyrdd.

“Fe fydda’ i’n gofyn i asiantau sy’n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru, i gydweithio er mwyn llwyddiant y fenter uchelgeisiol hon.”