Fe fydd cynghorau sir yn cael hwb o £60 miliwn er mwyn gwario ar heolydd.
Bydd y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt, yn cyhoeddi’r cynllun heddiw gan Lywodraeth Cymru sy’n caniatáu i gynghorau sir fenthyg arian.
Dywedodd Jane Hutt fod y cynllun benthyg yn mynd i leddfu’r pwysau ar gyllidebau’r awdurdodau lleol ac yn caniatáu iddyn nhw fuddsoddi mewn heolydd.
Ychwanegodd fod y cynllun yn mynd i roi “hwb” gwerth £60m i wariant yr awdurdodau ac yn sicrhau tua 900 o swyddi.
“Heb ein cydweithrediad ni, ni fyddai’r math yma o fuddsoddiad wedi bod yn fforddiadwy,” meddai.
Dan y cynllun bydd cyngor Caerdydd yn benthyg £5.1m yn ystod 2012/13, a Chyngor Powys £4.7m.
Awdurdod lleol Merthyr Tudful, sef un o’r rhai lleiaf o ran maint daearyddol, a fydd yn benthyg y swm lleiaf – £0.7m.
Dywedodd Jane Hutt y bydd y math yma o fenthyciad ariannol yn dod yn fwy cyffredin.
“Rydym ni eisiau cymryd pob cyfle cost-effeithiol i gynyddu buddsoddiad, er gwaetha’r toriadau llym i’n cyllideb ni ar draws Cymru,” meddai.