Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi heddiw ei bod wedi pennu targed “uchelgeisiol” o ddarparu 12,500 o gartrefi yn ystod ei thymor presennol.

Mae’r targed yn cynnwys 7,500 o gartrefi fforddiadwy – 1,000 yn fwy na tharged blaenorol y Llywodraeth – a’r 5,000 o gartrefi gwag fydd yn cael eu defnyddio unwaith eto drwy’r cynllun Troi Tai’n Gartrefi gafodd ei lansio yn gynharach eleni.

Fe fydd y 7,500 o gartrefi fforddiadwy yn cael eu darparu drwy gyfuniad o gymhorthdal gan Lywodraeth Cymru a gwariant ar ran darparwyr tai eraill.

Bydd y Papur Gwyn a fydd yn nodi cynigion y Llywodraeth i helpu i ddiwallu’r angen am dai yng Nghymru, yn cael ei gyhoeddi’r wythnos nesaf.

Dywedodd y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, Huw Lewis:

“Mae’r targed hwn yn arwydd clir o’n hymrwymiad i dai yng Nghymru.

“Ni fydd y targed hwn yn un hawdd i’w gyrraedd. Er hynny, mae’n gwbl hanfodol ein bod yn darparu’r tai hyn. Mae dirfawr eu hangen – nid yn unig er mwyn diwallu anghenion pobl o ran tai ond hefyd er mwyn creu swyddi a helpu i ysgogi’r economi.

“Wrth i gyllidebau Llywodraeth Cymru grebachu, mae’r angen am dai yn cynyddu. Mae’n gwbl hanfodol felly ein bod yn sicrhau bod y cyllidebau sydd gennym yn mynd ymhellach.”

‘Uchelgeisiol’

“Mae’r nod, sef 12,500 o dai, yn un uchelgeisiol ond y mae, yn fy marn i, yn un y mae modd ei gyrraedd. Er mwyn llwyddo felly bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol, Cymdeithasau Tai a’r sector preifat weithio gyda’i gilydd er mwyn denu arian o ffynonellau eraill i sicrhau’r gwerth gorau posibl am arian fel y gallwn ddarparu’r cartrefi hyn y mae dirfawr eu hangen ar gyfer pobl Cymru.

“Mae’n dipyn o her ond yn her rwyf yn edrych ymlaen ati gyda help ein holl bartneriaid.”

‘Diuchelgais’

Ond mae llefarydd tai’r Democratiaid Rhyddfrydol Peter Black wedi beirniadu targedau’r Llywodraeth heddiw gan ddweud eu bod yn “hwyr ac yn ddiuchelgais”.

Dywedodd bod y targedau i’w croesawu ond bod y gweinidog wedi aros am flwyddyn cyn eu cyhoeddi.

“Os ydan ni am gymryd y targedau yma o ddifrif mae’n rhaid i’r Llywodraeth ddarparu diffiniadau clir a sicrhau eu bod yn cyhoeddi ystadegau yn chwarterol er mwyn i ni gael monitro’r hyn sy’n cael ei wneud a’u galw i gyfrif.”