Peter Hain
Mae cyn Ysgrifennydd Cymru Peter Hain wedi cadarnhau ei fod yn gadael mainc flaen y Blaid Lafur.

Mae’r  Aelod Seneddol dros Gastell-nedd wedi dweud ei fod am ganolbwyntio ar ymgyrchu dros gynllun ar gyfer Morglawdd dros Afon Hafren.

Ar ei gyfrif Twitter y bore ‘ma dywedodd Peter Hain mai Morglawdd yr Hafren fydd y prosiect buddsoddi mwyaf yn y Deyrnas Gyfunol ac mai hwn yw’r “cyfraniad mwyaf gallaf i ei wneud ar hyn o bryd.”

Mewn cyfweliad ar BBC Radio Wales yn gynharach dywedodd ei fod hefyd am ymdrin â materion tramor yn Affrica ac Iran. Ychwanegodd bod angen gosod y dadleuon yn erbyn toriadau Llywodraeth San Steffan a’i bod hi’n gyfnod “tywyll a phryderus” ar hyn o bryd.

Fe fu sibrydion ynghynt ei fod am roi’r gorau i’w swydd yn llefarydd Cymru’r wrthblaid a bod Ed Miliband am wneud newidiadau i fainc flaen Llafur.

Mae Chris Bryant, Kevin Brennan ac Owen Smith yn cael eu hystyried yn geffylau blaen o ran canfod olynydd i Peter Hain yn llefarydd Cymru.

Mewn llythyr at Ed Miliband dywedodd Peter Hain ei fod am barhau yn Aelod Seneddol Castell Nedd a’i fod yn bwriadu sefyll  yn yr etholaeth yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf.