Heddlu
Mae dyn 47 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o ladd dynes 89 oed yn Rhyl.
Daeth yr heddlu o hyd i gorff Florence Habesch toc cyn 3am bore ma yn ei chartref ar Stryd Grange, y Rhyl.
Cafodd y dyn ei arestio yn Wolverhampton mewn gweithred ar y cyd rhwng Heddlu Gogledd Cymru a Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr.
Mae’r heddlu yn credu fod Florence Habesch wedi ei lladd rhywbryd ddydd Sul, 6 Chwefror.
Cynhaliwyd archwiliad post-mortem yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan, gan batholegydd y Swyddfa Gartref, Brian Rogers.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn parhau i ymchwilio ac yn holi o dŷ i dŷ.
“Rydyn ni’n cydymdeimlo â’r teulu ar amser anodd,” meddai’r Ditectif Uwch-arolygydd, Wayne Jones.
“Mae’r heddlu yn apelio ar unrhyw un oedd yn ardal Grange Road Rhyl ddydd Sul ac a sylwodd ar unrhyw beth amheus i gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 os yng Nghymru neu 0845 6071001.”