Wythnos ar ôl yr etholiadau lleol mae’r trafodaethau  yn parhau yng Ngheredigion i gael gweld pwy fydd yn rheoli’r Cyngor Sir.

Mae aelodau Plaid Cymru o fewn y sir yn cwrdd heno yn Aberaeron i drafod eu cynlluniau. Nhw yw’r blaid fwyaf ar y cyngor, fel yn 2008, ond nid oedd lle iddyn nhw ar y cabinet ar y cyngor diwethaf gan fod y grŵp Annibynnol a’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi clymbleidio.

Mae sôn bod Plaid Cymru’n ceisio denu rhai o’r cynghorwyr Annibynnol er mwyn gallu ffurfio mwyafrif. Collodd y grŵp Annibynnol ei arweinydd ar ôl i Keith Evans golli ei sedd yn Llandysul i Peter Evans o Blaid Cymru.

Mae gan y Democratiaid Rhyddfrydol 7 cynghorydd a dywedodd arweinydd y grŵp, y Cynghorydd Ceredig Davies o Aberystwyth, nad oedd am wneud sylw am y trafodaethau tan fod cyfarfod llawn o’r Cyngor wedi bod yfory.