David Davies
Mae Aelod Seneddol Ceidwadol wedi ymosod ar y Llywodraeth Glymblaid gan ei chyhuddo o “flerwch”.

Mewn llythyr at bapur newydd y South Wales Argus, mae Aelod Seneddol Mynwy, David Davies yn ymddiheuro i’w etholwyr sy’n teimlo eu bod nhw wedi cael eu “siomi” gan  Lywodraeth Prydain.

Fe rybuddiodd na fydd David Cameron yn parhau’n Brif Weinidog oni bai ei fod yn newid ei agwedd.

Mae’r AS yn cyhuddo’r Llywodraeth o fod yn amharod i wrando ar bryderon yr etholwyr na’r Aelodau Seneddol sy’n eu cynrychioli a chanolbwyntio yn lle ar gyfreithloni priodasau hoyw a diwygio Tŷ’r Arglwyddi.

Cafodd llythyr David Davies ei ysgrifennu yn dilyn canlyniadau siomedig y Ceidwadwyr yn yr etholiadau lleol wythnos ddiwethaf, lle’r oedd y blaid wedi colli rheolaeth o Gyngor Sir Mynwy.

Yn y llythyr, dywedodd yr AS bod perfformiad gwael y Llywodraeth wedi gwneud i rai etholwyr droi at y blaid Annibynnol UKIP.

Dywedodd AS Llafur Lisa Nandy bod y feirniadaeth gan un o’i Aelodau Seneddol ei hun, yn “embaras llwyr” i David Cameron.