Elin Fflur
Elin Fflur yw’r cyflwynydd diweddaraf i ymuno â’r rhaglen gylchgrawn Heno.

Bydd y gantores yn cyflwyno eitemau o wahanol rannau  o Gymru ac yn dechrau nos Lun nesaf.

Mae’r rhaglen Heno wedi bod dan lach  ers iddi ddisodli Wedi 7 ar 1 Mawrth. Mae’r cwmni cynhyrchu, Tinopolis, wedi cyhoeddi nifer o newidiadau yn dilyn yr ymateb negyddol gan wylwyr, gan gynnwys ail-agor swyddfa Caernarfon a dod â’r cyflwynwyr Gerallt Pennant ac Angharad Mair yn eu hôl.

Yr wythnos ddiwethaf cyhoeddodd S4C fod y cyflwynydd Rhodri Ogwen Williams yn symud o Heno i gyflwyno cyfresi eraill ar y sianel, gan gynnwys Jacpot sy’n rhan o’r rhaglen Pen8nos

Dafydd Du

Mae S4C hefyd wedi cyhoeddi fod Dafydd Du yn ymuno â thîm y rhaglen Prynhawn Da i gyflwyno o’r stiwdio bob prynhawn Llun i Gwener gyda Mari Grug, Siân Thomas a Rhodri Owen.