Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi heddiw y bydd rhai o’r ymgeiswyr yn un o’u prif gystadlaethau blynyddol yn cael cystadlu drwy gyswllt fideo dros y we am y tro cyntaf eleni.

Cyhoeddodd yr Eisteddfod heddiw y byddai rhai o’r cystadleuwyr yn rownd gynderfynol cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn cael eu cyfweld drwy dechnoleg Skype ar y we.

Dyma’r tro cyntaf erioed i’r Eisteddfod Genedlaethol ddefnyddio cysylltiad drwy’r we er mwyn hwyluso trefniadau cystadlu i ymgeiswyr, ond maen nhw’n dweud bod y nifer sydd wedi cystadlu, a’r pellter daearyddol iddyn nhw deithio i’r cyfweliadau, wedi eu perswadio i fabwysiadu’r dechnoleg newydd eleni.

Bydd y cyfweliadau eraill, ar gyfer y bobol sy’n gallu mynychu’r cyfweliadau, yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg dros y dyddiau nesaf.

Bydd y beirniaid wedyn yn dewis yr ymgeiswyr gorau i fynd drwodd i’r rownd derfynol – yn barod ar gyfer dewis Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg 2012.

‘Dipyn o her’

Wrth drafod y penderfyniad i fynd â chystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn i gyfeiriad y we, dywedodd Trefnydd yr Eisteddfod, Hywel Wyn Edwards, eu bod wedi gorfod newid er mwyn ymateb i nifer a lleoliad yr ymgeiswyr.

“Mae trefnu’r cyfweliadau wedi bod yn dipyn o her eleni oherwydd bod nifer o’r cystadleuwyr yn byw dramor.  Rydym felly wedi gorfod trefnu amser sy’n gyfleus ar gyfer gwahanol rannau o’r byd, ac mae hyn wedi cymryd peth amser i’w roi at ei gilydd.

“Byddwn yn defnyddio technoleg Skype am y tro cyntaf eleni, a diolch am y dechnoleg.  Mae’n braf bod gennym bobol yn ymddiddori ac yn dysgu Cymraeg ym mhob rhan o’r byd a bod modd i’r gystadleuaeth a’r Eisteddfod fod yn hygyrch i bawb, lle bynnag y maen nhw’n byw.”

Bydd enwau’r pedwar sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn y gystadleuaeth yn cael eu cyhoeddi dros y penwythnos.

Bydd y rownd derfynol yn cael ei chynnal ar 8 Awst, a bydd enw’r enillydd yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni arbennig yng Ngwesty’r Bear, Y Bontfaen y noson honno.

Mae’r gystadleuaeth eleni yn cael ei noddi gan Agored Cymru, bydd Tlws gan Ganolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg, Prifysgol Caerdydd, a gwobr o £300 yn rhoddedig gan Gronfa Gwynfor, Y Barri, yn cael ei chyflwyno i’r enillydd.