Mae llwybr arfordirol Cymru wedi ei agor yn swyddogol heddiw, y cyntaf yn y byd i amgylchynu arfordir gwlad gyfan.

Cynhaliwyd digwyddiadau er mwyn dathlu’r agoriad yng Nghaerdydd, Aberystwyth a’r Fflint, heddiw.

Mae’r agoriad yn benllanw pum mlynedd o waith gan Lywodraeth Cymru, y Cyngor Cefn Gwlad ac awdurdodau lleol.

Mae wedi costio tua £2m y flwyddyn i’w greu. Death £4m o’r arian o gronfeydd Ewropeaidd.

Mae’r llwybr yn ymestyn 870 milltir o aber Afon Dyfrdwy yn Sir y Fflint i Gas-gwent yn y de.

Mae yna eisoes lwybr ar hyd Clawdd Offa, sy’n golygu ei bod hi bellach yn bosib teithio 1,030 milltir o amgylch Cymru gyfan.

Dywedodd y Gweinidog Amgylcheddol, John Griffiths, bod y llwybr newydd yn “gaffaeliad da iawn i Gymru”.

“Fe fydd yn hwb i economïau’r cymunedau sydd ar arfordir Cymru,” meddai.

“Mae’r llwybr wedi agor toc cyn dechrau’r Gemau Olympaidd yn Llundain. Y gobaith yw y bydd y teithwyr rheini yn dod draw i ymweld ag arfordir Cymru hefyd.”