Castell Caernarfon
Bydd noson i ddathlu “iaith unigryw Caernarfon a’r cylch” yn cael ei gynnal yng Nghlwb Pêl-droed y dre nos Fercher.

Bydd yr actorion lleol Dewi Rhys a Mari Gwilym yn cynrychioli’r ‘Cofi Dre’ a’r ‘Cofi Wlad’ ac yn cyflwyno noson o ryddiaith, cerddi a ffilmiau byrion yn iaith y cofi.

Y nod meddai’r trefnwyr fydd “cymryd golwg ysgafn ar fywyd” a hynny yn iaith y Cofi.

“Mae’n addo bod yn noson hwyliog dros ben i bawb o bob oed,” meddai’r cynhyrchydd Ifor ap Glyn.

Fe fydd  y noson yn cael ei ffilmio gan Cwmni Da yn rhan o gyfres ‘Ar Lafar’ S4C.

‘Mynd yn brin’

“Mae yna falchder mewn bod yn gofi,” meddai Menna Wyn Thomas sy’n gynghorydd tref yng Nghaernarfon. “Ond ychydig iawn o gofis sy’ na rŵan.”

“Dw i’n meddwl fod pobl o fy oed i yn medru siarad mwy o iaith y cofi na phobl sy’n 50 oed neu iau.

“Dw i’n teimlo’i fod y iaith yn dechrau diflannu, sy’n bechod. Byddai’n dda i bobl ifanc fynd i’r noson i glywed iaith y cofi, a gweld sut mae o wedi datblygu a phrinhau.

“Mae cael bod yn gynghorydd ynghanol cofis yn hwyl – hyd yn oed os dw i’n cael feed back gwael ganddyn nhw ambell dro,” meddai.

Tafodieithoedd Cymru

Bydd cyfres newydd ‘Ar Lafar’, yn rhoi sylw i nifer o wahanol dafodieithoedd Cymru yn ei thro.

“Ond tro Caernarfon fydd hi gynta’, ” meddai Ifor ap Glyn sy’n  dweud y “bydd cyfle i ni ail fwynhau Richard Huws y ‘Co Bach’, Goronwy Jones ‘Y Dyn Dŵad’, a ‘Sioned’ gan Winnie Parry, yn ogystal â gwaith mwy diweddar gan y Prifardd Mei Mac efo plant Ysgol Maesincla.”

Bydd y noson yn cael ei chynnal yng Nghlwb Pêl Droed, Caernarfon, 9 Chwefror am 7 o’r gloch yr hwyr.

Bydd elw’r noson yn mynd tuag at gronfa leol Eisteddfod yr Urdd 2012. Mae tocynnau ar gael am £4  gan Gwmni Da drwy ffonio 01286 685300.