Leighton Andrews
Mae’r Gweinidog dros Addysg a Sgiliau wedi cyhoeddi enwau saith person sydd wedi eu penodi i Gyngor Partneriaeth newydd y Gymraeg.

Cafodd y Cyngor Partneriaeth ei sefydlu gan fesur y Gymraeg 2011 a’i rôl fydd cynghori Gweinidogion y Llywodraeth ar faterion y Gymraeg a strategaeth Gymraeg y Cynulliad.

Mae’r penodiadau yn rhedeg o 1 Ebrill 2012 hyd at 31 Mawrth 2015 ac mae disgwyl i’r aelodau ymrwymo o leiaf dri diwrnod y flwyddyn i’r swydd. Ni fydd yr aelodau yn cael eu talu ond fe fyddan nhw’n derbyn costau teithio a chynhaliaeth.

Dyma’r saith aelod:

Dr Lowri Angharad Ahronson – Cyfarwyddwr Cynllun Iaith Gymraeg, Prifysgol Bangor

Efa Catrin Gruffudd Jones, Prif Weithredwr, Urdd Gobaith Cymru

Owain Siôn Gruffydd – Prif Weithredwr, Menter Bro Dinefwr a Thrywydd

Catherine Baldwin, Swyddog Iaith Gymraeg, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

Sali Burns, Nyrs Iechyd Meddwl Cofrestredig, Gwasanaethau Seicolegol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Hywel Jones, Prif Weithredwr, Mudiad Meithrin

Dr Rhodri Llwyd Morgan, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Adran Addysg a Gwasanaethau Cymunedol, Cyngor Sir Ceredigion

‘Heriau newydd i weinidogion’

Dywedodd Leighton Andrews fod sefydlu’r  Cyngor Partneriaeth yn “enghraifft arall o ymrwymiad y Llywodraeth hon i gefnogi a datblygu’r iaith Gymraeg.”

“Ym mlwyddyn gyntaf y Cynulliad hwn, rydyn ni wedi cyflwyno newidiadau cyflym ac ystyrlon i agenda’r Gymraeg.

“Bydd y penodiadau hyn yn rhoi mwy o syniadau, mwy o gymorth, a heriau newydd i Weinidogion wrth inni ddechrau rhoi Strategaeth newydd y Gymraeg ar waith, ac wrth inni weithredu ein Cynllun Gweithredu ar gyfer 2012-13.”