Mae 80% o draethau Cymru ag ansawdd dŵr “ardderchog” medd arolwg gan elusen amgylcheddol.

Roedd y Gymdeithas Gadwraeth Forol wedi profi 152 o draethau yng Nghymru ac roedd gan 121 – 80% – ohonyn nhw “ansawdd dŵr ardderchog” . Yn yr Alban dim ond 41% o draethau a gyrhaeddodd y safon yna.

Mae’r elusen wedi cyhoeddi llawlyfr o draethau da gwledydd Prydain ac mae nifer y traethau o Gymru sy’n cael eu cynnwys yn 20% yn uwch na’r llynedd, ac ar ei uchaf ers i’r llyfr gael ei gyhoeddi gyntaf 25 mlynedd yn ôl.

Dywedodd swyddog prosiectau Cymru’r Gymdeithas, Dr Lou Luddington, fod y ffigurau diweddaraf yn hwb i dwristiaeth yng Nghymru.

“Gyda chymaint yn penderfynu cymryd eu gwyliau adre mae’r ffaith fod cymaint o draethau gydag ansawdd dŵr da yn newyddion gwych i Gymru.

“ Mae hon yn garreg filltir i lefydd glan môr Cymru ond mae’n bwysig nad yw’r awdurdodau lleol, Dŵr Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru yn gorffwys ar eu rhwyfau.

“Bydd y drefn o fesur ansawdd dŵr yn fwy llym yn 2015 pan fydd amodau newydd yn cael eu cyflwyno dan y Cyfarwyddyd Dŵr Ymdrochi ac os byddwn ni’n bodloni ar y ffigurau presennol yna fe allwn ni weld llai o draethau Cymru yn cael eu hargymell.”

Traeth y Rhyl ar gau

Mae’r Gymdeithas Gadwraeth Forol yn rhybuddio y gall glaw trwm yr wythnos ddiwethaf gael effaith ar lendid traethau gan  fod carthion yn gallu cael eu harllwys o bibau a’u cludo lawr i lan y môr.

Mae traeth y Rhyl ar gau’r bore ‘ma ar ôl i garthion ollwng i’r môr ddoe ar ôl i bwmp dorri mewn gorsaf bwmpio yn y dref. Dywed Cyngor Sir Ddinbych fod “peth carthion gwan wedi eu rhyddhau” ac na ddylai’r cyhoedd ymdrochi yn y dŵr ar draeth y Rhyl tan fod y Cyngor yn tynnu’r arwyddion rhybudd oddi ar y traeth.