Mae Cymdeithas yr Iaith wedi condemnio penderfyniad Ofcom i roi trwydded saith mlynedd i’r cwmni sy’n gyfrifol am ddarlledu Radio Ceredigion heddiw.

Yn ôl Cymdeithas, mae’r penderfyniad i roi’r drwydded i Town and Country Broadcasting yn “drychineb i’r Gymraeg”.

Mae rhybudd Cymdeithas yn adleisio pryderon lleol fod y ddarpariaeth Gymraeg ar orsaf Radio Ceredigion wedi disgyn yn aruthrol ers i Town and Country Broadcasting brynu’r orsaf yn ôl yn 2010.

“Mae gan y cwmni hwn hanes o danseilio’r Gymraeg, ac mae’r cyhoeddiad heddiw yn mynd i gael effaith negyddol uniongyrchol ar iaith,” meddai llefarydd darlledu Cymdeithas, Adam Jones.

“Mae gyda ni system sydd yn rhoi grym i berchnogion fel y Murdochs a Town and Country Broadcasting ar draul anghenion Cymru. Nid yw Town and Country Broadcasting yn gwmni teilwng i reoli gorsaf radio yn y wlad hon,” meddai.

Ond wrth groesawu’r newyddion heddiw, mynnodd Rheolwr Gyfarwyddwr Town and Country Broadcasting, Martin Mumford, mai’r gwrandawyr oedd wrth galon eu gwasanaeth.

“Mae Radio Ceredigion wedi cynnal ymchwil cynulleidfa annibynnol er mwyn penderfynu ar y cyfuniad gorau o raglenni.

“Rydyn ni’n hapus iawn o fod wedi ennill y drwydded, ac r’yn ni’n edrych ymlaen at symud yr orsaf yn ei blaen yn unol â chanfyddiadau’r ymchwil mor gynted â phosib,” meddai.

‘Rheswm arall dros ddatganoli darlledu’

Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud fod penderfyniad diweddaraf Ofcom yn dystiolaeth bellach bod angen “ystyried datganoli darlledu i Gymru yn syth, gan fod y system fel y mae yn tanseilio’r Gymraeg fel iaith ein cymunedau.

“Gwasanaethu pobol yn hytrach na gwneud elw dylai fod nod y gyfundrefn ddarlledu,” meddai Adam Jones, wedi  Ofcom ddweud fod cais Radio Ceredigion yn fwy “cynaliadwy yn ariannol” na chais gan ymgyrchwyr dros y Gymraeg, ‘Radio Ceredigion 2012’.

“Nid rhywbeth ar wahân yw’r Gymraeg ond rhywbeth sydd angen ei brif-ffrydio, dyna pam mae rhaid i Radio Ceredigion gefnogi’r iaith yn hytrach na’i diystyru,” meddai Adam Jones.

“Mae Llywodraeth Cymru, trwy beidio â dilyn cyngor Bwrdd yr Iaith Gymraeg, yn rhannol gyfrifol am sefyllfa hon. Mae’n gwneud ffars o’i strategaeth iaith, ac yn mynd i godi cwestiynau am ymrwymiad y Gweinidog i sicrhau system sydd yn trin yr iaith yn deg.”