Matthew Rhys
Mae gŵyl sy’n dathlu’r Gymraeg yn cynnal ffair yng nghastell Caerdydd ar 23 Mehefin, ac yn disgwyl denu dros 8,000 o bobl.

Mae Menter Caerdydd yn trefnu Tafwyl ers saith mlynedd a dyma fydd y tro cyntaf i’r ŵyl gael ei chynnal yn y castell, a’r tro cyntaf fel rhan o Ŵyl Caerdydd.

Mae’r trefnwyr yn gobeithio denu tyrfa fawr i’r ffair rad ac am ddim ar gyfer cerddoriaeth, sesiynau coginio gyda’r cogydd Bryn Williams, a gweithdai chwaraeon gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru a’r Urdd.

Bydd dau lwyfan yno a sesiynau byw gan Meic Stevens, Y Niwl, a Greta Isaac, a gweithdai sgiliau syrcas gyda NoFit State Circus.

Matthew Rhys

Mae Tafwyl yn para o 23 i 28 Mehefin ac mae’r actor o Gaerdydd, Matthew Rhys, yn un o nifer o wynebau enwog sydd wedi datgan cefnogaeth i’r ŵyl.

“Pan oeddwn i’n tyfu lan yng Nghaerdydd fy mhrif ddiddordebau oedd perfformio a’r celfyddydau ac mae’n grêt bod Tafwyl yn rhoi blas o’r gweithgareddau celfyddydol Cymraeg sydd ar gael yn y ddinas ar gyfer bob oedran,” meddai seren y gyfres deledu Brothers And Sisters.

“Dwi hefyd yn falch dros ben fod Tafwyl yn cael ei gynnal eleni fel rhan o Ŵyl Caerdydd – a lle gwell na Chastell Caerdydd i gychwyn y dathliad o Gymreictod y ddinas.”