Mae’r cwmni tu ôl i Radio Ceredigion wedi sicrhau trwydded ddarlledu am saith mlynedd arall heddiw, yn sgil cyhoeddiad gan y rheoleiddiwr darlledu Ofcom.

Mae’r orsaf, sy’n cael ei rhedeg gan Town and Country Broadcasting, wedi bod yn destun dadlau cyson yn ddiweddar wrth i garfanau o gynulleidfa’r orsaf gwyno fod eu darpariaeth Gymraeg yn diflannu.

Fe arweiniodd y cwynion hyn at sefydlu grŵp ymgyrchu a oedd eu hunain wedi gwneud cais i Ofcom am y drwydded ddarlledu a wobrwywyd heddiw, er mwyn sefydlu gorsaf gyda mwy o Gymraeg o’r enw Radio Ceredigion 2012.

Ond dywedodd Ofcom heddiw fod cais Town and Country Broadcasting yn rhagori ar Radio Ceredigion 2012 am ei fod yn fwy “cynaliadwy yn ariannol.”

Wrth groesawu’r newyddion heddiw, mynnodd Rheolwr Gyfarwyddwr Town and Country Broadcasting, Martin Mumford, bod eu harlwy yn ceisio gosod y gwrandawyr wrth galon y gwasanaeth.

“Mae Radio Ceredigion wedi cynnal ymchwil cynulleidfa annibynnol er mwyn penderfynu ar y cyfuniad gorau o raglenni,” meddai.

“Rydyn ni’n hapus iawn o fod wedi ennill y drwydded, ac r’yn ni’n edrych ymlaen at symud yr orsaf yn ei blaen yn unol â chanfyddiadau’r ymchwil mor gynted â phosib.”

Yn y cyfamser, mae rhai o’r ymgyrchwyr tu ôl i gais Radio Ceredigion 2012 wedi sicrhau trwydded radio cymunedol arall gan Ofcom i sefydlu gorsaf Radio Beca.

Mae’r orsaf newydd yn bwriadu canolbwyntio ar ddarparu’r gwasanaeth Gymraeg y ymgyrchwyr yn dweud sydd wedi ei golli yn Radio Ceredigion ers i Town and Country Broadcasting ei brynu yn 2010.