Rhodri Ogwen Williams ar y chwith
Mae S4C wedi cyhoeddi newidiadau mawr i’w hamserlen heddiw, fydd yn gweld y cyflwynydd Gerallt Pennant yn dychwelyd i’r sgrin, a’r cyflwynydd Rhodri Ogwen Williams yn gadael Heno.

Cyhoeddodd S4C heddiw y byddai Gerallt Pennant yn ail-ymuno â thîm rhaglen gylchgrawn nosweithiol Tinopolis o 14 Mai ymlaen, ar ôl iddo gael ei ollwng yn wreiddiol, ar ôl i Wedi 7 droi’n Heno ar 1 Mawrth.

Mae’r sianel hefyd wedi cyhoeddi y bydd Rhodri Ogwen Williams yn gadael ei le ar y soffa nosweithiol er mwyn “canolbwyntio ar gyfresi eraill i S4C gan gynnwys ‘Jacpot’ sy’n rhan o’r rhaglen ‘Pen8nos’.”

Roedd S4C eisoes wedi cyhoeddi y byddai newidiadau i gynnwys ac arddull rhaglen ‘Heno’ ers rhai wythnosau – gyda llawer mwy o bwyslais ar y berthynas â’r gynulleidfa ledled Cymru.

Roedd Tinopolis, cynhyrchwyr Heno, hefyd wedi cadarnhau y byddai eu swyddfa yng Nghaernarfon yn ail agor fel rhan o’r newidiadau i’r rhaglen.

Newid yr amserlen

Mae S4C wedi cadarnhau heddiw y bydd y newidiadau diweddaraf hefyd yn golygu newid yn yr amserlen ar draws eu rhaglenni.

Bydd Heno nawr yn ymestyn i fod yn rhaglen nosweithiol o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn hytrach na dydd Llun i ddydd Iau. Bydd y newid hwn yn golygu bod Gerallt Pennant, Angharad Mair ac Eleri Siôn yn ymuno ag Emma Walford, Mari Grug a Rhodri Owen i greu’r tîm cyflwyno newydd.

Bydd rhaglen Prynhawn da hefyd yn cael ei newid rhywfaint, gan droi’n awr o raglen yn hytrach na’r 1.45 awr bresennol, ac yn canolbwyntio ar eitemau hamdden a sgwrsio.

Bydd rhaglen ‘Pen8nos’ ar nos Wener hefyd yn newid o 25 Mai ymlaen. Dywedodd S4C y byddai’r rhaglen yn dal i gynnwys slot ‘Jacpot’, ac y byddai ‘Sam Ar y Sgrin’ yn symud o’i slot nos Sul i fod yn rhan o ‘Pen8nos’.

Bydd y slot 10 o’r gloch o nos Lun i nos Wener, sy’n cael ei ddefnyddio i ail-ddarlledu Heno ar hyn o bryd hefyd yn newid.

Bydd ‘Sgorio’ yn symud yn ôl i 10 o’r gloch ar nos Lun, gyda’r slot honno yn cael ei rhoi i raglenni ieuenctid fel ‘Y Lle’ a chyfresi comedi fel ‘Gwlad yr Astra Gwyn’ yn ystod weddill yr wythnos.

Bydd ailddarllediad ‘Pobol y Cwm’ yn symud nôl i 6.30 o nos Lun i nos Wener, a slot newydd y gyfres ddrama ‘Rownd a Rownd’ fydd 6.10pm ar nos Lun a nos Fercher gyda’r ailddarllediad ar ddydd Sul.

Gwrando ar y gwylwyr

Wrth gyhoeddi’r newidiadau heddiw, dywedodd Cyfarwyddwr Cynnwys newydd S4C, Dafydd Rhys, fod y Sianel yn “edrych ymlaen at dderbyn ymateb i’r amserlen newydd ac yn mawr obeithio y bydd y gynulleidfa yn cael ei phlesio gyda gweithgaredd ‘Heno’ o gymunedau amrywiol Cymru.

“Bydd cyfle yn hwyrach yn y nos i’r sianel fod yn fwy mentrus a blaengar – yn wir, i atgyfnerthu’r gwasanaeth yn galon i’r genedl,” meddai.

Dywedodd Angharad Mair, cynhyrchydd ‘Heno’ a ‘Prynhawn Da’, ei bod hithau’n “edrych ymlaen yn fawr at gyflwyno’r ‘Heno’ newydd, rhaglen gylchgrawn ble bydd S4C yn rhoi’r gwylwyr, cymunedau a digwyddiadau ar y sgrin.

“Rhaglen y gwylwyr fydd hon,” meddai, “fydd yn dangos yr holl weithgaredd difyr a diddorol sy’n digwydd ym mhob cwr o Gymru yn ddyddiol.”