Gareth Williams
Fe fyddai’r ysbïwr o Ynys Môn, Gareth Williams, wedi mygu o fewn tair munud ar ôl mynd i mewn i’r bag lle cafwyd hyd i’w gorff, clywodd cwest i’w farwolaeth heddiw.

Yn ôl patholegwyr, mae’n debygol mai gwenwyno neu fygu oedd yr achosion mwyaf tebygol am ei farwolaeth.

Cafodd ei ddatgelu hefyd bod olion “o leiaf” dau berson anhysbys yn ei fflat yn Pimlico yn Llundain er gwaethaf tystiolaeth mai anaml iawn fyddai Gareth Williams yn gwahodd pobl i’w gartref.

Dywedodd yr arbenigwr fforensig Ros Hammond ei bod yn gobeithio am ganlyniadau  profion DNA “o fewn wythnosau” a gafodd  eu cynnal ar liain gwyrdd gafodd ei ddarganfod yn ei gegin.

‘Gwenwyn’

Yn ôl y patholegydd Benjamin Swift mae’n bosib bod y swyddog MI6 wedi cael ei fygu neu ei ladd gyda gwenwyn oedd wedi diflannu o’i system wrth i’w gorff bydru.

Dywedodd Dr Swift bod yr archwiliad post mortem yn anodd oherwydd y gwres o fewn y bag ar ôl i’r system gwres canolog gael ei adael ymlaen yn y fflat er ei bod yng nghanol mis Awst.

Roedd Ian Calder wedi cynnal yr ail archwiliad post mortem ar gorff Gareth Williams. Dywedodd y byddai’r lefelau o garbon deuocsid o fewn y bag wedi bod yn wenwynig o fewn dwy neu dair munud, petai Gareth Williams wedi bod yn fyw pan aeth i mewn i’r bag.

Fe fyddai Hypercapnia – sef lefelau uchel o garbon deuocsid yn y gwaed – yn “esboniad teg” i’r hyn a allai fod wedi digwydd i Gareth Williams meddai, o ystyried ei fod yn berson iach, ac nad oedd niwed i’w gorff, na chyffuriau, nag unrhyw glefyd naturiol.

‘Yn fyw pan aeth i mewn i’r bag’

Dywedodd patholegydd arall, Richard Shepherd, ei bod yn “fwy tebygol bod Gareth Williams yn fyw pan aeth i mewn i’r bag.”

Ond doedd “dim awgrym” bod ei gorff wedi cael ei wthio i mewn i’r bag a phetai wedi cael ei orfodi i mewn i’r bag pan oedd yn fyw neu yn syth ar ôl iddo farw, fe fyddai disgwyl gweld marciau ar ei gorff.

Roedd Dr Swift yn credu bod Gareth Williams, 31, wedi marw yn fuan ar ôl iddo gael ei weld am y tro olaf ar 15 Awst 2010, yn ei fflat yn Pimlico.

Daw’r dystiolaeth ddiweddara ar ôl i arbenigwyr ddweud y byddai Harry Houdini hyd yn oed wedi cael trafferth i gloi ei hun yn y bag.

Cafodd y cwest ei ohirio tan yfory. Mae disgwyl i’r crwner Fiona Wilcox gyhoeddi ei dyfarniad ddydd Mercher.