Mae ymddiswyddiad Prif Wyddonydd dros dro Llywodraeth Cymru dros y penderfyniad i frechu moch daear yn tanlinellu “esgeulustod cywilyddus” y Llywodraeth wrth anwybyddu ei harbenigwyr ei hun, yn ôl yr FUW.

Mae’r undeb amaethyddol yn dweud fod ymddiswyddiad Yr Athro Chris Pollock dros y penderfyniad i frechu moch daear yn hytrach na’u difa, wrth fynd i’r afael â TB mewn gwartheg, yn dangos gwendidau mawr o fewn strategaeth y Llywodraeth.

Wrth gyhoeddi ei ymddiswyddiad o fwrdd adolygu gwyddonol rhaglen dileu TB Llywodraeth Cymru, dywedodd Yr Athro Chris Pollock ei fod yn anghyfforddus gyda’r bwriad i ddilyn cynllun brechu moch daear, yn lle’r cynllun blaenorol i’w difa.

“Mae brechu heb ei dreialu i bob pwrpas,” meddai wrth esbonio’i ymddiswyddiad, “felly r’ych chi’n ffeirio un strategaeth sydd wedi cael llwyddiant yn Iwerddon ac mewn llefydd eraill, am strategaeth sydd heb gael ei dreialu o gwbl.”

‘Cost i’r trethdalwr’

Yn ôl Brian Walters, ffermwr o Sir Gaerfyrddin a llefarydd yr FUW ar TB, mae’r ymddiswyddiad yn “cefnogi popeth r’yn ni wedi bod yn ei ddweud am benderfyniad Llywodraeth Cymru ers iddo gael ei gyhoeddi.

“Mae’r dystiolaeth a roddwyd i’r Llywodraeth yn dangos y bydd eu penderfyniad yn costio o leia’ £3.5miliwn yn ychwanegol i’r trethdalwr, a does dim gwyddoniaeth yn cefnogi’r penderfyniad.

“Nawr mae ganddon ni wyddonydd o safon ryngwladol sydd wedi bod yn cynghori Llywodraeth Cymru am flynyddoedd yn dweud yr un peth, ac yn aberthu ei swydd mewn protest,” meddai.

‘Angen ymchwiliad’

Yn ôl Brian Walters, mae’r cam annisgwyl hwn gan gyn-gyfarwyddwr Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig Aberystwyth, Yr Athro Chris Pollock, yn gofyn cwestiynau mawr ynglŷn â doethineb y penderfyniad gan Weinidog yr Amgylchedd.

“Mae ei benderfyniad i ymddiswyddo dros y brad llwfr a chywilyddus hwn o’r diwydiant amaeth yn un nobl, ac yn un sy’n tanlinellu’r angen am ymchwiliad i’r mater hwn.”

Mae’r Ceidwadwyr hefyd wedi gofyn cwestiynau ynglŷn â’r penderfyniad i ddewis cynllun o frechu moch daear, yn sgil yr ymddiswyddiad.

“Mae’r ymddiswyddiad hwn yn un damniol iawn ar ôl tro pedol y Gweinidog,” meddai llefarydd materion gwledig y Ceidwadwyr, Antoinette Sandbach.

“Os nad oes ganddo hyder yn ei gynghorwyr gwyddonol ei hun, sut y gall honni fod ei benderfyniad i ddilyn rhaglen brechu wedi ei selio ar dystiolaeth, ac nid ar ystyriaethau gwleidyddol sinigaidd?”