Mae arbenigwr sydd wedi bod yn cynghori Llywodraeth Cymru ar eu strategaeth i ddelio â TB mewn gwartheg wedi ymddiswyddo mewn protest yn erbyn eu cynlluniau i frechu moch daear.

Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cadarnhau fod yr Athro Chris Pollock wedi ymddiswyddo o’r panel adolygiad gwyddonol.

Yn ôl Chris Pollock, roedd yn siomedig gyda’r newid cyfeiriad yng nghynlluniau’r Llywodraeth – sef y penderfyniad i frechu moch daear yn hytrach na’u difa, er mwyn mynd i’r afael â TB.

Mae Chris Pollock yn cyhuddo Gweinidog Amgylchedd Cymru o fynd yn groes i argymhellion ei adolygiad gwyddonol ei hun trwy ffafrio cynllun brechu – a’i fod yn ei chael yn anodd iawn amddiffyn cynllun o’r fath.

Roedd Chris Pollock yn un o’r tri arbenigwr annibynnol ar fwrdd adolygiad gwyddonol Llywodraeth Cymru, i gynghori gweinidogion ar y dystiolaeth ynglŷn â gwahanol strategaethau o reoli TB mewn gwartheg.

Dwy broblem

Dywedodd y gwyddonydd, sy’n gyn-gyfarwyddwr ar IBERS yn Aberystwyth, fod dwy brif broblem gyda strategaeth ddiweddaraf y Llywodraeth i ddelio â TB.

“Does bron dim treialon wedi eu cynnal ar effeithlonrwydd brechu anifeiliaid yn erbyn TB, felly r’ych chi’n ffeirio un strategaeth o ddelio â’r broblem, sydd wedi cael llwyddiant yn Iwerddon ac mewn llefydd eraill, gyda strategaeth sydd heb ei dreialu o gwbl,” meddai Chris Pollock.

“Roeddwn i’n anfodlon iawn gyda’r sefyllfa hynny, ond mater mwy sylweddol o fy rhan i oedd y ffaith fod yr adroddiad gwyddonol a gomisiynwyd gan y Gweinidog yn cynnwys sylwadau penodol am y problemau yn ymwneud â brechu mewn ardal lle mae ’na achosion uchel o’r clwy.

“Mae defnyddio’r brechlyn mewn Ardal Gweithredu Ddwys, lle mae lefel y clwy mewn moch daear eisoes yn uchel iawn, yn fy marn i yn mynd yn erbyn argymhellion ei adolygiad gwyddonol ei hun,” meddai wrth y Farmers Guardian.

“Doeddwn i’n sicr ddim yn hapus am hynny, ac felly ddim yn credu y gallwn i barhau i fod yn aelod o fwrdd y rhaglen os nad oeddwn i’n gallu cefnogi’n llawn y rhaglen oedd yn cael ei ddilyn.”

Dywedodd ei fod yn credu mai polisi’r Llywodraeth Glymblaid flaenorol o ddifa moch daear fyddai’n rhoi “cyfle rhesymol ar gyfer gwella’r sefyllfa.”

‘Dim effaith’

Ond mae’n dweud fod y tebygolrwydd o lwyddo mynd i’r afael â TB “wedi gostwng yn sgil y newidiadau sy’n cael eu cyflwyno” gan y Llywodraeth bresennol.

“Os ydych chi’n brechu anifail, neu hyd yn oed person, sydd eisoes â’r clwy, dyw’r brechiad ddim yn mynd i gael dim effaith o gwbwl,” meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y Gweinidog Amaeth wedi “derbyn ymddiswyddiad Yr Athro Pollock o Fwrdd y Rhaglen Dileu TB gyda siom, ac wedi diolch iddo am ei gyfraniad sylweddol.”