Syr Terry Matthews ydi’r person mwyaf cyfoethog yng Nghymru, yn ôl papur newydd The Sunday Times.

Syr Terry yw perchennog  gwesty a chyrsiau golf y Celtic Manor ger Casnewydd lle wnaeth gystadleuaeth y Cwpan Ryder gael ei chynnal yn 2010. Ar waetha’r glaw, roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol.

Mae cyfanswm ffortiwn y dyn busnes 68 oed, a gafodd ei enw yng Nghasnewydd, wedi codi o £1.043 biliwn y llynedd i £1.090 biliwn eleni, codiad o £47 miliwn.

Mae 24 person o Gymru wedi cael eu cynnwys yn y rhestr o 100 pobl fwyaf cyfoethog Prydain.

Mae’r actores Catherine Zeta-Jones yn y degfed safle, a Tom Jones, sydd yn feirniad yn y gyfres The Voice ar y BBC ar hyn o bryd, yn rhif 12.

Yn yr ail safle ar y rhestr mae Michael Moritz o Gaerdydd sydd yn werth £1.08 biliwn ar ôl i’w fuddsoddiad yn y safle rhwydweithio busnes Linkedin ddwyn ffrwyth.

Douglas Perkins, o Lanelli, wnaeth sefydlu’r cwmni Specsavers gyda’i wraig Mary, sydd yn y drydydd safle.