Songs of Praise (Llun: BBC)
Mae côr ysgol o Lanelli wedi cyrraedd rownd derfynol côr y flwyddyn ar Songs of Praise y BBC, ac am blesio’r beirniaid yn Gymraeg.

Côr iau Ysgol y Strade yw’r unig gôr o Gymru i gyrraedd y ffeinal, a’r unig un o ysgol wladol gan mai ysgolion bonedd yw’r pump arall.

Dywedodd arweinydd y côr, Christopher Davies, mai “gwaith caled gan y staff a’r disgyblion” yw’r allwedd i lwyddiant y côr.

“Byddwn ni’n canu dwy gân grefyddol, un yn Gymraeg a’r llall yn Gymraeg a Saesneg.

“Bydd hi’n braf clywed a gweld y Gymraeg ar y BBC” meddai Christopher Davies.

Liberal England yn gofyn cwestiynau

Mae blog Liberal England, gan Jonathan Calder, yn gofyn pam fod cymaint o gorau o ysgolion bonedd yn y rownd derfynol.

“Dw i ddim yn gwybod ai rheswm diwylliannol yntau economaidd yw e – ydy e’n costio llawer i gael côr da? – ond rydym ni wedi dod yn gyfarwydd â’r fath yma o ddominyddiaeth mewn diwylliant a chwaraeon gan y sector preifat.”

Ychwanegodd Jonathan Calder mai’r unig ysgol wladol yw’r un o Gymru, “sydd o bosib yn deyrnged i draddodiad corawl y wlad honno neu i’w diffyg pwyslais ar ddosbarthiadau cymdeithasol. Neu efallai lwc.”

Dywedodd Christopher Davies fod “cerddoriaeth yn ein gwaed ni fel Cymry, mae’n dod yn naturiol inni.”

Mae côr Ysgol y Strade yn teithio i Eisteddfod Llangollen ym mis Gorffennaf ac yn gobeithio cyrraedd y brig eleni ar ôl dod yn ail agos i gôr o Groasia y llynedd.

Bydd y côr yn ymddangos ar Songs of Praise ddydd Sul am 5.15 ar BBC1.