Wylfa
Mae un o adweithyddion niwclear Wylfa wedi ei gau i lawr ychydig ddyddiau o flaen llaw, ar ôl cynhyrchu trydan ers 41 mlynedd.

Roedd disgwyl i adweithydd 2 gael ei gau i lawr ar 30 Ebrill, ond caeodd ddoe ar ôl i’r rheolwyr ail-ystyried.

Mae adweithydd 1 yn parhau i weithio. Mae disgwyl iddo gau yn 2014, 43 mlynedd ers dechrau cynhyrchu trydan yn 1971.

Yn y cyfamser fe fydd yn defnyddio tanwydd nad oedd wedi ei ddefnyddio’n llawn gan adweithydd 2.

Roedd Magnox, sy’n cynnal yr adweithydd, wedi penderfynu cau adweithydd 2 am nad oedd digon o danwydd i gadw’r ddau i fynd.

“Mae heddiw yn garreg filltir bwysig yn hanes yr Wylfa,” meddai Stuart Law, cyfarwyddwr y safle.

“Mae’n ddiwedd cyfnod, ond rydyn ni’n canolbwyntio ar gynhyrchu trydan saff ac adweithydd 1.”

Daw’r newyddon wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi y bydd 1,200 o staff fu’n rhan o’r diwydiant niwclear yn Wylfa a Trawsfynydd yn cael arweiniad ar yrfa ac yn cael eu hailhyfforddi.

Mae’n rhan o gynllun £4m ar gyfer gogledd-orllewin Cymru.

Fis diwethaf cadarnhawyd na fyddai cwmnïoedd o’r Almaen yn buddsoddi ym mhwerdy niwclear Wylfa B, a fyddai yn weithredol erbyn 2020.