Mae disgrifiad llofrudd o sut wnaeth guro a thagu ei gymydog i farwolaeth wedi cael ei gadarnhau gan arbenigwr heddiw.

Mae Llys y Goron Casnewydd wedi clywed sut yr oedd David Cook, 65, o Tan-y-Bryn, Cwm Rhymni wedi curo Leonard Hill, 64, cyn ei dagu gyda weiren deledu.

Roedd Cook wedi cario mlaen yn ôl ei arfer am 12 diwrnod wrth i gorff ei gymydog bydru mewn ystafell wely yn ei gartref.

Roedd y modd y bu farw Leonard Hill yn debyg iawn i lofruddiaeth Beryl Maynard ym 1987. Cafodd Cook ei garcharu am oes yn 1988 am lofruddio’r athrawes ysgol Sul yn ei chartref yn Reading.

Cafodd Cook ei ryddhau o’r carchar “ar drwydded” yn 2009 ac wedi symud i fyw mewn byngalo drws nesaf i Leonard Hill ym mis Mawrth 2011.

Mae Cook yn gwadu llofruddio Leonard Hill ond wedi cyfaddef iddo ei ladd, gan ddweud ei fod wedi bod yn ceisio amddiffyn ei hun.

Mae David Aubrey QC ar ran yr erlyniad yn dadlau bod Cook wedi ei lofruddio am arian. Mae’n honni bod gan Cook ddyledion o bron i £6,000 ac wedi symud tŷ sawl gwaith er mwyn osgoi talu ei ddyledion.

Ar ôl iddo ladd Leonard Hill, honnir bod Cook wedi dwyn arian o’i dŷ ac wedi mynd i’r dafarn ar ôl hynny.

Dywedodd y patholegydd Dr Derek James ei fod wedi archwilio corff Leonard Hill a bod y modd y cafodd ei ladd yn cyd-fynd â disgrifiad Cook i’r heddlu o’r ffordd yr oedd wedi lladd ei gymydog.