Gareth Williams
Roedd yr ysbïwr MI6 o Ynys Mon, Gareth Williams wedi clymu ei hun i’w wely  “er mwyn cael gweld a allai gael ei hun yn rhydd,” clywodd y cwest i’w farwolaeth heddiw.

Roedd Gareth Williams yn gweithio ar y pryd yng nghanolfan glustfeinio GCHQ, yn Cheltenham. Clywodd y cwest heddiw fod ei landlordiaid wedi clywed gwaedd yng nghanol y nos ac aethon nhw i ran o’r tŷ a oedd yn cael ei rentu gan Gareth Williams.

Daethon nhw o hyd iddo gyda’i addyrnau wedi’u clymu’n sownd i’r gwely, a gofynnodd Gareth Williams iddyn nhw am help i ddod yn rhydd. Roedd Gareth Williams mewn “panig” meddai’r landlord Jennifer Elliot, a bu’n rhaid i’w gwr ei dorri’n rhydd gyda chyllell.

Daeth y cwpwl i’r casgliad fod y weithred yn un o natur rywiol yn hytrach nag yn ymgais i ymhél â champau dianc, ac ni ddigwyddodd unrhyw beth tebyg i hynny eto, meddai Jennifer Elliot, mewn datganiad ysgrifenedig.

Roedd fflat Gareth Williams wastad yn berffaith daclus meddai Jennifer Elliott ac ni welodd hi ddim yno o “natur rywiol neu ffetish”.

Cafodd corff Gareth Williams, a oedd yn wreiddiol o Ynys Môn, ei ganfod mewn bag yn ei fflat yn Pimlico, Llundain yn Awst 2010. Dywedodd y ditectif sy’n arwain yr achos, y Ditectif Uwch Arolygydd Jackie Sebire, wrth y llys ei bod hi  wedi amau bod rhywun arall wedi bod yn gysylltiedig a’i farwolaeth.

Cyfrifiadur gwaith

Roedd cwestiynau hefyd wedi cael eu gofyn heddiw a allai’r gwasanaethau cudd fod wedi ymyrryd â chyfrifiadur gwaith Gareth Williams wedi i’w gorff gael ei ddarganfod. Cafodd yr offer electronig ei drosgwlyddo i uned gwrth-derfysgaeth Scotland Yard ar 27 Awst, pedwar diwrnod wedi ei farwolaeth.

Dywedodd cyfreithiwr y teulu, Anthony O’Toole, nad oedd “unrhyw ddatganiad gan unrhyw un yn GCHQ i ddweud nad oedd ymyrraeth wedi bod gyda’r offer” yn y cyfamser.

Dywedodd yr Uwch Arolygydd Michael Broster, oedd yn gyfrifol am ymchwiliad yr uned gwrth-derfysgaeth, fod safle gwaith Gareth Williams wedi cael ei “selio a’i dapio.”

Dywedodd nad oedd yn gallu dweud “yn hollol bendant na fu ymyrraeth. Ond does gen i ddim rheswm i gredu bod hynny wedi digwydd,” meddai.

Dywedodd hefyd nad oedd wedi llwyddo i ddarganfod unrhyw gysylltiad rhwng gwaith Gareth Williams a’i farwolaeth.

Wrth i’r cyfreithiwr ei holi sut bod y wasg wedi cael clywed bod cyfrifiadur cartref Gareth Williams yn dangos ei fod wedi ymweld â gwefannau ynglŷn â chlawstroffobia – oedd yn son am fwynhad o amgylchiadau caeedig – a chaethiwed a sadomasocistiaeth, dywedodd Michael Broster nad oedd ganddo syniad sut fod hyn wedi digwydd.