Keith Davies, AC Llanelli
Mae disgwyl y bydd Aelod Cynulliad Llanelli, Keith Davies, yn destun ymchwiliad gan Awdurdod Safonau’r Cynulliad a’i blaid ei hun heddiw, wedi adroddiadau iddo gael ei daflu allan o westy pum seren yng Nghaerdydd yn dilyn ffrae ar ôl noson allan.

Mae’n debyg fod Gwesty Dewi Sant ym Mae Caerdydd wedi gofyn i’r gwleidydd adael yn oriau mân fore dydd Mawrth, wedi iddo ddychwelyd ar ôl bod mewn parti pen-blwydd lobïwr gwleidyddol yn y brifddinas.

Y gred yw mai arian y trethdalwr oedd yn talu am lety Keith Davies nos Lun, fel rhan o’i waith fel Aelod Cynulliad sy’n teithio i mewn o’i etholaeth tu allan i Gaerdydd.

Ymwybodol o ‘ddigwyddiad honedig’

Heddiw, fe gadarnhaodd Comisiwn y Cynulliad eu bod yn ymwybodol o “ddigwyddiad honedig.”

Dywedodd llefarydd ar ran y Comisiwn fod “Comisiwn y Cynulliad yn cefnogi Aelodau Cynulliad yn ddyddiol o ran eu hanghenion llety tra yng Nghaerdydd ar fusnes y Cynulliad.

“Mae clerc y Cynulliad wedi cael ei hysbysu am y digwyddiad honedig yn ymwneud ag Aelod Cynulliad, sy’n ymwneud â llety a ddarparwyd ar gost gyhoeddus.

“Er nad oes unrhyw gŵyn swyddogol wedi ei dderbyn gan y clerc, mae’n ofynnol iddi gyfeirio’r mater at Gomisiynydd Safonau Annibynnol y Cynulliad ar gyfer ymchwiliad,” meddai.

“Ni fyddai’n briodol i’r Comisiwn wneud unrhyw sylw pellach ar y mater nes bod yr ymchwiliad wedi ei gwblhau.”

Mae’r gwleidydd 70 oed yn gymharol newydd i’r Cynulliad, wedi iddo ennill sedd Helen Mary Jones, Plaid Cymru, o 80 pleidlais yn etholaeth Llanelli fis Mai y llynedd.

‘Y prif chwip yn ymchwilio’

Ddoe, doedd dim golwg ohono yn Sesiwn Lawn gyntaf y Cynulliad ar ôl gwyliau’r Pasg – a hynny, yn ôl adroddiadau, ar gyngor prif chwip Llafur, Janice Gregory.

Mae Llafur Cymru bellach wedi cadarnhau fod Janice Gregory yn ymchwilio i’r mater ar ran y blaid.

Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru eu bod nhw’n “cymryd unrhyw fater yn ymwneud ag ymddygiad Aelod Cynulliad Llafur o ddifrif, ac fe fydd y prif chwip yn ymchwilio yn llawn.”

Gwrthododd Keith Davies roi sylw ar y mater.

Mae Heddlu De Cymru yn dweud na chawson nhw eu galw i Westy Dewi Sant ar unrhyw adeg nos Lun na fore Mawrth, ac na chysylltwyd â nhw ynglŷn ag unrhyw droseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus yn yr ardal honno nac o gwmpas yr adeg honno.