Nikitta Grender
Mae cymdogion merch feichiog wedi rhybuddio heddiw y bydd pobol yr ardal yn ceisio dial eu hunain os nad yw’r heddlu yn dod o hyd i’r llofrudd yn fuan.

Daeth diffoddwyr tân o hyd i gorff Nikitta Grender, 19, ar ôl tân yn ei fflat ar ystad Broadmead Park, yn Llyswyry, am 7.50am ddydd Sadwrn.

Cyhoeddodd Heddlu Gwent eu bod nhw’n ymchwilio i lofruddiaeth ar ôl i archwiliad post-mortem ddangos fod Nikitta Grender wedi ei thrywanu.

Roedd gan y ferch 19 oed bythefnos ar ôl cyn rhoi genedigaeth i ferch fach ac mae yna ddicter mawr yn y gymuned ar ôl clywed am y drosedd.

Rhybuddiodd un cymydog bod teimladau yn y gymuned mor gryf y gallai ambell un geisio dial eu hunain.

“Fe fydd pobol yn ceisio dial eu hunain os nad ydi’r heddlu yn dod o hyd i rhywun,” meddai’r mam i bedwar Christine Tovey, oedd yn byw drws nesaf i Nikitta Grender.

“Fyddwn i ddim yn eu beio nhw am hynny. Mae pobol yn teimlo’n gryf am y peth. Dyw bywyd ddim yn deg rhagor.”

‘Merch hoffus’

Dywedodd fod Nikitta Grender yn ferch boblogaidd oedd wedi ei magu yn yr ardal.

“Symuddodd hi i mewn i’r fflat gyda’i chariad pump neu chwech mis yn ôl ac roedd sawl un yn ei hoffi hi,” meddai.

“Roedd hi’n drwm feichiog. Mae beth ddigwyddodd iddi yn afiach.

“Fe es i a’r plant i’r ysgol bore ma a doedd yna neb yn siarad, heb yn dweud helo, dim ond tawelwch.

“Mae pobol yn flin ac yn ffieiddio. Maen nhw eisiau dod o hyd i bwy bynnag wnaeth hyn cyn gynted a bo modd.”

Trosedd erchyll

Ychwanegodd fod yr heddlu wedi chwilio ei gardd ddoe er mwyn ceisio dod o hyd i’r arf ddefnyddwyd wrth drywanu Nikitta Grender.

Mae’r heddlu yn parhau i fynd o dŷ i dŷ heddiw gan chwilio bob modfedd o’r ystad dai ar gyrion dwyreiniol Casnewydd.

Roedden nhw hefyd yn gwagio cwteri yn y gobaith o ddod o hyd i’r arf. Maen nhw’n credu fod Nikitta Grender wedi ei thrywanu â chyllell.

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Geoff Ronayne mai dyma un o’r “troseddau fwyaf erchyll” iddo ei weld erioed.

“Rydyn ni’n credu bod y trosedd yn un lleol,” meddai. “Mae rhywun yn gwybod ble mae’r gyllell ac rydyn ni’n annog y person hwnnw i gysylltu gyda ni.

“Roedd hon yn drosedd erchyll ac mae dau fywyd diniwed wedi eu colli,” meddai’r Ditectif Uwch-arolygydd Geoff Ronayne.

“Roedd Nikitta o fewn pythefnos i roi genedigaeth i ferch fach. Mae hon yn drosedd arbennig o ddideimlad ac yn rhywbeth nad ydyn ni’n ei weld yn aml.

“Roedd teulu Nikitta wedi bod yn edrych ymlaen at enedigaeth y babi a nawr maen nhw wedi torri eu calonnau.”

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda’r heddlu ar 01443 865562 neu ffonio Taclo’r Tacle ar 0800 555111.