Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn o law trwm yn ne Cymru, o Went i Gaerfyrddin. Rhybudd melyn yw rhybudd lleiaf difrifol y swyddfa dywydd ac mae’n dynodi bod angen i bobl fod yn wyliadwrus.

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi rhybuddio bod posibilrwydd o lifogydd lleol ar hyd de a chanolbarth Cymru heddiw ar ôl glaw cyson dros nos.

Maen nhw’n cynghori gyrrwyr i fod yn ofalus gan fod perygl o ddŵr ar heolydd wrth i ddreiniau a  ffosydd orlifo. Mae adroddiadau bod un lôn o’r A470 ar gau i gyfeiriad y gogledd ger Trefforest o achos dŵr ar wyneb yr heol.

Mae gwyntoedd cryfion hefyd wedi peri trafferthion ar draws Cymru, ac mae Gwylwyr y Glannau yn Aberdaugleddau wedi cadarnhau bod cwch wedi torri’n rhydd o’i angor yn Dale dros nos.

Er bod lefelau dŵr afonydd wedi codi yn sgil y glaw diweddar nid yw Asiantaeth yr Amgylchedd yn disgwyl iddyn nhw godi yn ddigon uchel i achosi llifogydd ar raddfa eang.