Ynys Enlli
Mae pysgotwr o Ynys Enlli wedi dweud bod cynlluniau Llywodraeth Cymru i wneud yr ynys yn Barth Cadwraeth Morol yn mynd i “ddinistrio’r ffordd ynysig o fyw.”

Wythnos ddiwethaf cyhoeddodd Gweinidog yr Amgylchedd John Griffiths fod 10 safle ar arfordir Cymru dan ystyriaeth ar gyfer statws gwarchodedig a fydd yn “galluogi’r safleoedd hynny i weithredu mor naturiol â phosibl.”

Mae pedwar o’r deg safle ar Benrhyn Llŷn, a dywed Colin Evans o Fordaith Enlli bod bygythiad i bysgotwyr yr ardal ac i ffordd o fyw Ynys Enlli.

“Os daw’r amodau hyn i rym yna dwi ddim yn rhagweld bydd neb ar yr ynys ymhen deg mlynedd. Byddwn ni methu hel cimychiaid, methu pysgota o’r lan, na chwaith nofio, cerdded ar y traeth, hel broc môr. Bydd yr amodau yma’n difetha ffordd o fyw sydd wedi bod yn rhan bwysig o fy nheulu i ers cenedlaethau.

“Mae 40 o gychod pysgota ar Benrhyn Llŷn a baswn i’n dweud bod 38 ohonyn nhw’n cynnal teuluoedd Cymraeg, lleol. Mae o’n ddiwylliant yn ogystal â diwydiant ond tydy ffordd o fyw pobl ddim yn cael ei gwarchod.

“Mae cadwraeth forol yn bwysig i ni achos mae o’n rhan o’n ffordd ni o fyw. Taswn ni’n gor-bysgota yna basa yna ddim ar ôl i ni bysgota yn fuan iawn.

“Mae swyddi traddodiadol, cynaladwy yn y fantol yma ond yn anffodus tydy’r pobol sydd wedi llunio’r cynlluniau yma ddim yn deall ffordd o fyw’r ardal.”

Dewis tair neu bedair ardal

Mewn ymateb, dywed Llywodraeth Cymru: “Yr ymgynghoriad ar Barthau Cadwraeth Morol yw cymal cyntaf y broses. Rydym yn awyddus i ystyried safbwyntiau grwpiau megis pysgotwyr, amgylcheddwyr a darparwyr twristiaeth.

“Ein bwriad yw dewis tair neu bedair ardal i fod yn Barthau Cadwraeth Morol, ond nid ydym yn agos at y cymal gwneud penderfyniad ac yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i gyfrannu i’r broses fel bod eu safbwyntiau yn gallu cael eu hystyried.”

Bydd y cyfnod ymgynghori ar y cynlluniau yn dod i ben ar 31 Gorffennaf.