Senedd yr Alban
Mae ymgyrchwyr sy’n cwyno bod y BBC yn dangos tuedd yn erbyn annibyniaeth i’r Alban yn trefnu gwrthdystiad cyhoeddus fis nesaf.

Mae grŵp o ymgyrchwyr wedi dod ynghyd i drefnu gwrthdystiad cyhoeddus ar 26 Mai yn erbyn yr hyn maen nhw’n ei alw’n “duedd yn erbyn annibyniaeth” gan y BBC.

“Gwrthdystiwch yn erbyn tuedd gwrth annibyniaeth y BBC,” yw neges y protestwyr ar eu tudalen Facebook.

“Mae’r brotest yma i fod i addysgu’r cyhoedd yn gyffredinol o agenda rhagfarnllyd y BBC. Mae hwn ers lles ein democratiaeth a’n gwlad ni.”

Mae’r protestwyr yn dweud eu bod yn gweithredu oherwydd y “propaganda a cham wybodaeth gyson yn ystod y paratoadau ar gyfer refferendwm annibyniaeth yr Alban yn 2014.”

Ymddiheuro

Mae’r anniddigrwydd ymhlith rhai grwpiau gyda sylw’r BBC i drafodaeth annibyniaeth yn yr Alban wedi bod ar gynnydd ers rhai misoedd, ond yn ddiweddar fe fu’n rhaid i’r BBC ymddiheuro am sylwadau a wnaed ar eu gwefan newyddion ynglŷn ag un stori am annibyniaeth.

Daeth yr ymddiheuriad wedi i BBC Scotland gyfaddef eu bod wedi gwneud sylwadau camarweiniol mewn erthygl yn trafod sefyllfa banc yr RBS mewn Alban annibynnol.

Mewn cyfweliad rhwng dirprwy arweinydd yr SNP, Nicola Sturgeon, â’r BBC ym mis Mawrth, fe arweiniodd y BBC gyda’r pennawd y byddai banc yr RBS yn “ddibynnol ar Loegr” hyd yn oed wedi datganoli.

Mae’r SNP yn mynnu mai dweud y gallai’r Alban ymdopi gwnaeth Nicola Sturgeon, ond y byddai’r gwledydd lle mae’r banc yn dal i weithredu, gan gynnwys yr Alban a Lloegr, yn cyfrannu at unrhyw gynllun achub.

Mae’r BBC bellach wedi ymddiheuro am y pennawd, gan gyfaddef eu bod yn “cytuno nad oedd y pennawd gwreiddiol yn adlewyrchiad cywir o’r hyn a ddywedodd y Dirprwy Brif Weinidog yn y cyfweliad.

“Mae’r pennawd a’r cymalau priodol o’r stori wedi cael eu hailysgrifennu er mwyn gollwng unrhyw gyfeiriad at ‘ddibyniaeth ar’ a rhoi ‘gweithio gyda’ yn eu lle, sef yr hyn wnaeth Nicola Sturgeon ddweud yn ei chyfweliad,” meddai’r BBC.

Bydd y gwrthdystiad yn cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn, 26 Mai, tu allan i bencadlys y BBC yn yr Alban, y Pacific Quay, ar gyrion Glasgow.