Peter Hain
Mae cyfreithiwr sy’n cynrychioli’r Aelod Seneddol Peter Hain yn erbyn cyhuddiadau o “ddirmygu barnwr” wedi codi amheuaeth a yw’r fath drosedd yn bodoli erbyn hyn.
Mewn gwrandawiad ym Melffast dywedodd cyfreithiwr Peter Hain, David Dunlop, “Mae’n fater a yw trosedd dirmygu barnwr dal mewn bodolaeth yn nhermau cyfraith gyffredin.”
Os ydyw mewn bodolaeth mae’r cyfreithiwr yn amau a yw’n cydymffurfio â chonfensiwn Ewrop ar ryddid mynegiant.
Hunangofiant
MaeTwrnai Cyffredinol Gogledd Iwerddon, John Larkin, wedi amddiffyn ei benderfyniad i ddwyn achos yn erbyn Aelod Seneddol Castell Nedd, a’i gyhoeddwyr, am sylwadau a wnaeth am farnwr uchel lys a gafodd eu cyhoeddi yn hunangofiant Peter Hain.
Yn y gwrandawiad dywedodd John Larkin fod yr achos dirmyg llys yn ymwneud â hyder y cyhoedd yng ngweinyddiaeth y gyfraith yn hytrach nag amddiffyn enw da barnwr.
Roedd cynnig ben bore yn San Steffan yr wythnos ddiwethaf gan David Davis AS yn “nodi gyda phryder bod y drosedd hynafol o ddirmygu barnwr, a oedd wedi darfod amdani ar ddiwedd yr 19eg ganrif, wedi ei defnyddio.”
Bydd yr achos llawn yn cael ei gynnal ar 19 Mehefin.