Leanne Wood
Mae Leanne Wood wedi awgrymu ei bod hi’n awyddus i weld Plaid Cymru yn cydweithio â Llafur er mwyn symud Cymru yn ei blaen heddiw.

Mewn blog yn trafod ‘Dewis Amgen Unedig i Gymru’, mae arweinydd newydd Plaid Cymru yn dweud y byddai’n barod i gydweithio â Llafur ar lefel leol a chenedlaethol er mwyn ‘amddiffyn Cymru rhag y Ceidwadwyr’.

Wrth drafod etholiadau lleol 3 Mai heddiw, dywedodd Leanne Wood y byddai’n hapus i ystyried clymbleidio â Llafur ar rai cynghorau lle byddai’r blaid yn rhannu amcanion tebyg i Blaid Cymru.

“Pan a phryd y bydd Llafur yn penderfynu mabwysiadu rhaglen flaengar – polisiau sy’n diogelu Cymru rhag ymosodiad y Dems Rhydd a’r Ceidwadwyr ar ein cymunedau – yna fe fyddwn ni’n cydweithio â nhw,” meddai Leanne Wood.

Uniad newydd?

Wrth drafod ei gweledigaeth ar gyfer gwleidyddiaeth Cymru yn genedlaethol, mae Leanne Wood hefyd yn awgrymu’r posibilrwydd o uniad newydd rhwng Plaid Cymru a Llafur ym Mae Caerdydd – ac yn amddiffyn llwyddiant Llywodraeth Cymru’n Un.

“Mae rhai yn dweud bod Plaid wedi dioddef yn sgil y penderfyniad i glymbleidio â Llafur, ond yn y pendraw fe fu i Gymru ennill, gan ei bod hi’n cael ei rheoli gan lywodraeth gref a blaengar, oedd yn ymestyn gallu Cymru i amddiffyn ei hun,” meddai Leanne Wood.

Datgelodd arweinydd newydd Plaid Cymru ei bod hi nawr yn awyddus i weld ail-sefydlu’r undod hyn.

“Os yw Carwyn Jones o ddifrif ynglŷn ag atal y toriadau ffyrnig hyn ar ein swyddi, ein pensiynwyr, ein helusennau, a’r rheiny sydd â’r lleia’ yn ein cymdeithas – os yw’n dymuno cryfhau’r ‘darian’ Gymreig i ddiogelu pobol yn erbyn rheolaeth y Ceidwadwyr – gadewch i ni gael sgwrs agored am sut y gallwn ni greu dewis amgen go iawn i Gymru.

“Petai Llafur yn barod i roi’r gorau i chwarae gwleidyddiaeth er budd cyfyngedig y blaid, ac yn barod i weithio gyda ni i roi’r gorau i wleidyddiaeth y llwyth, gallai gwleidyddiaeth Cymru wasanaethu pobol Cymru yn well,” meddai.

Dim gobaith o glymblaid â’r Ceidwadwyr

Ond wrth i Leanne Wood glosio at Lafur, roedd hi’n mynnu na fyddai’n hapus i weld unrhyw gydweithio â’r Ceidwadwyr mewn cynghorau lleol wedi etholiad 3 Mai.

Mewn blog yn gosod agenda’r blaid heddiw, dywedodd Leanne Wood fod “egwyddorion y Ceidwadwyr yn anghydnaws ag egwyddorion Plaid Cymru.”

Yn ôl Leanne Wood, mae’n rhaid i Blaid Cymru weithio i wrthwynebu toriadau San Steffan.

“Mae cymunedau Cymru dan warchae gan Brif Weinidog Ceidwadol sy’n cosbi pobol yn ei gynllun i gael gwared ar y wladwriaeth les.

“Yng Nghymru, gallai’r Ceidwadwyr fod wedi ymateb yn wahanol, ond yn hytrach, mae eu harweinydd yn y Cynulliad wedi cymeradwyo rhaglen glymblaid y DU, ac wedi mynd ag adain Gymreig y blaid ymhellach i’r dde,” meddai.

Ond wrth ymateb i sylwadau arweinydd Plaid Cymru heddiw, mae ambell un yn dweud mai ymgais i ennill lle mewn clymblaid yw’r holl ladd ar y Ceidwadwyr.

Yn ôl Glyn Davies, AS Ceidwadol Sir Drefaldwyn, mae’n “ddiddorol clywed arweinydd newydd Plaid Cymru, Leanne Wood, yn gwneud sylwadau mor awgrymog wrth Lafur. Mae’n ymddangos ei bod hi’n llygadu swydd y dirprwy Brif Weinidog.”