Hywel Williams AS
Ar Ddydd San Siôr, mae Aelod Seneddol Plaid Cymru wedi galw o’r newydd  am Senedd i Loegr.

Heddiw, bu Hywel Williams yn amlinellu tystiolaeth Plaid Cymru i Gomisiwn McKay gafodd ei sefydlu gan y Glymblaid i ymchwilio i effeithiau datganoli ar Dŷ’r Cyffredin.

Y prif fater dan sylw yw sut mae’r Senedd yn delio gyda busnes sydd wedi’i ddatganoli yn Yr Alban, Cymru, a Gogledd Iwerddon ac felly’n berthnasol i Loegr yn unig.

Dywedodd Hywel Williams: “Un o gredoau craidd Plaid Cymru yw bod gan bobl Cymru’r hawl i lunio eu dyfodol eu hunain – ac mae gan bobl Loegr yr hawl honno hefyd.

“Ar hyn o bryd, mae Tŷ’r Cyffredin yn trio gwneud dwy swydd – bod yn Senedd i Loegr a Senedd y Deyrnas Unedig. Rhaid gwahanu’r ddwy rôl hyn.

“Mae cynlluniau ar gyfer system ‘Pleidleisiau Seisnig ar Gyfreithiau Seisnig’ yn Senedd y DU yn gymhleth ac anymarferol.

“Yr ateb symlaf yw Senedd i Loegr gyda grymoedd tebyg i’r hynny sydd gan Seneddau a Chynulliadau Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon fel bydd gan ASau o Loegr le i drin a thrafod eu problemau eu hunain heb i ASau eraill fod yno.”

Democratiaeth

Ychwanegodd na fyddai cynlluniau ar gyfer ‘Pleidleisiau Seisnig ar Gyfreithiau Seisnig’ yn cael gwared ar y diffyg democratiaeth ble mae ASau Lloegr yn pleidleisio ar ddeddfwriaeth a nawdd sy’n effeithio’r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon.

“Dangosodd yr adroddiad diweddar gan Richard Wyn Jones a’r IPPR gefnogaeth i Senedd i Loegr a chredwn y byddai datblygiad o’r fath yn gwneud synnwyr pe bai law yn llaw gyda newid cyfansoddiadol ehangach yn cynnwys diwygio Tŷ’r Arglwyddi a chomisiwn parhaol i sicrhau nawdd teg i Gymru, yn annibynnol o Drysorlys y DU.

“Rhaid ehangu gorchwyl Comisiwn McKay er mwyn iddynt fedru ateb Cwestiwn West Lothian heb gael eu gorfodi i greu mwy o fiwrocratiaeth mewn senedd sydd yn barod ymysg y rhai mwyaf hynafol yn y byd.”