Dafydd Hywel a Richard Harrington yn y ffilm
Mae’r ddrama Gymraeg am yr actor byd-enwog, Richard Burton, wedi ennill un o anrhydeddau mwyaf yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd.

Llwyddodd ‘Burton: Y Gyfrinach?’ i gipio Gwobr y Rheithgor yn seremoni’r Ŵyl nos Wener ddiwethaf.

Mae’r wobr yn cael ei rhoi ar sail gwaith cynhyrchu, cyfarwyddo, sgiliau technegol neu grefft ragorol.

Dywedodd y beirniaid fod safon y cynhyrchiad, y cynllunio a’r cyfarwyddo wedi gwneud argraff, a bod y cyfan wedi “cyfuno’n wych gyda’r naratif i greu ffilm gelfydd.”

Mae’r ffilm yn codi cwestiynau newydd am berthynas Richard Burton a’i frawd hŷn Ifor Jenkins. Richard Harrington sy’n cymryd rôl yr actor byd enwog gyda Dafydd Hywel yn chwarae rhan y brawd.

‘Anrhydedd’

Wrth glywed am y llwyddiant nos Wener, dywedodd y cyfarwyddwr, Dylan Richards, ei bod hi’n “anrhydedd derbyn y wobr.

“Mae’r diolch i’r tîm cyfan a wnaeth weithio mor galed i gynhyrchu’r ffilm. Mae hynny’n cynnwys y criw a’r actorion,” meddai.

“Mae’r ddrama yn ffrwyth llafur cariad a heb eu hangerdd a’u hymroddiad ni fyddai’r gwaith wedi bod yn bosib.”

Dywedodd Ian Jones, Prif Weithredwr S4C, ei fod yn llongyfarch pawb oedd yn gysylltiedig â’r cynhyrchiad, a bod y ddrama yn un o “uchafbwyntiau amserlen S4C dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.”