Mae’r teulu brenhinol wedi eu cyhuddo o ragrith wedi iddyn nhw ganiatáu adeiladu ffermydd gwynt ar dir Ystadau’r Goron yng Nghymru.

Mae’r Tywysog Charles wedi beirniadu’r tyrbinau yn y gorffennol gan ddweud eu bod nhw’n “nam erchyll ar y tir o’u hamgylch”, ac mae eu dad y Tywysog Phillip hefyd wedi dweud eu bod nhw’n “ddi-werth”.

Serch hynny mae Ystadau’r Goron wedi cytuno i rentu tir i gwmni RES i adeiladu 15 tyrbin ar Fryn Llywelyn yn Sir Gaerfyrddin, ac i gwmeni RWE adeiladu pedwar tyrbin arall yn Neuadd Goch ym Mhowys.

Mae’r 19 tyrbin yng Nghymru ymysg 45 a fydd yn cael ei adeiladu ar dir Ystadau’r Goron. Mae’r gweddill yn Swydd Lincoln.

Mae’r ddau gynllun yn disgwyl caniatâd cynllunio ar hyn o bryd.

Roedd beirniadaeth lem i’r cynlluniau i adeiladu’r ffermydd gwynt yn y wasg Brydeinig, ddoe.

Mae erthygl ym mhapur newydd y Daily Mail, ‘Royals’ £1m wind farm hypocrisy: 45 wind turbines described by Charles as a ‘horrendous blot’ to be built on Crown land’, yn dyfynnu pobol leol yng Nghymru yn cwyno am y cynlluniau.

Dywedodd John Jones, 66, sydd wedi sefydlu grŵp Facebook i wrthwynebu adeiladu’r tyrbinau ar Fryn Llywelyn, wrth y papur bod y “Teulu Brenhinol yn hapus i gymryd y cymorthdaliadau er nad ydyn nhw erioed wedi dod allan dan hyn i weld y mynydd eu hunain”.

Dywedodd llefarydd ar ran y Tywysog Charles nad oedd y Teulu Brenhinol yn gyfrifol am weithredoedd Ystadau’r Goron.

Roedd y rhan fwyaf o incwm y Tywysog Charles yn dod o Ddugiaeth Cernyw, meddai.

Does dim tyrbinau gwynt wedi ei hadeiladu ar dir Dugiaeth Cernyw, sydd berchen rhywfaint o dir yng Nghymru.