Prifysgol Bangor
Mae un o fyfyrwyr cwrs PhD Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Bangor wedi taro’n ôl heddiw, ar ôl i’r cwrs gael ei alw’n “radd Sali Mali” gan un o awduron sefydledig Cymru.

Yn ôl Meg Ellis, sy’n dilyn y cwrs ym Mangor ers mis Medi, “anwybodaeth lwyr” sydd tu ôl i’r sylwadau gan awdur ‘Ac Yna Clywodd Sŵn y Môr,’ Alun Jones.

Mewn darn barn ddadleuol iawn ym mhapur bro Llanw Llŷn y mis hwn, dywedodd Alun Jones fod ysgrifennu creadigol “mor amherthnasol i’r egwyddor o raddau uwch â’r grefft o dorri brechdan.”

Ond mae’r hanner dwsin sy’n dilyn y cwrs ym Mhrifysgol Bangor ar hyn o bryd yn anghytuno’n llwyr â’r sylwadau, ac yn mynnu fod ei eiriau yn dangos diffyg dealltwriaeth o natur y cwrs.

‘Dibrisio graddau’

“Mae’r sylwadau yn difrïo’r math o ymchwil sydd ei angen ar gyfer y cwrs hwn, ac ar gyfer ysgrifennu nofel,” meddai Meg Elis wrth Golwg 360.

Ond yn ôl Alun Jones mae’r cwrs PhD yn “dibrisio graddau” ac yn “sarhau’r miloedd didwyll sydd wedi gwneud gwaith dilys i’w gael.”

Mae awdur ‘Ac Yna Clywodd Sŵn y Môr’, sydd wedi bod yn llyfr gosod ar gyrsiau TGAU Cymraeg ers blynyddoedd, yn beirniadu’r ffaith fod y Brifysgol yn cynnig cwrs gradd uwch mewn ‘Ysgrifennu Creadigol’ o gwbl.

“Waeth faint o amser a gymerir i sgwennu nofel, boed bum niwrnod neu bum mlynedd, nid rhywbeth i’w chyflwyno ar gyfer gradd uwch mohoni, ac nid rhywbeth i’w astudio ar gyfer gradd uwch ydi ysgrifennu creadigol chwaith. Yn syml, nid dyna ddiben graddau uwch ac nid dyna’u hanes.

“Mae’n debyg y gellid dadlau fod y diffiniad o radd uwch sy’n deillio o’u hanes yn un rhy haearnaidd ddi-droi a thraddodiadol, a bod y math o gwrs a gynigir ym Mangor hefyd yn haeddu gradd uwch, a bod sgwennu nofel neu ddwy neu ddrama neu ddwy hefyd yn haeddu doethuriaeth. I mi, mae’n ddychryn braidd fod pobl sy’n credu hynny ar gael,” meddai.

‘Cwrs academaidd’

Ond mae Meg Elis yn dweud y byddai hi “yn sicr yn disgrifio’r cwrs yn un ‘academaidd’.

“Mae angen disgyblaeth academaidd ar gyfer y cwrs yma, ac mae pawb yn cwrdd mewn seminarau wythnosol i gyfnewid syniadau gyda rhai eraill sy’n astudio meysydd gwahanol.”

Mae’r seminarau hyn, sy’n cynnwys rhyw hanner dwsin o fyfyrwyr PhD yr adran a hanner dwsin o fyfyrwyr gradd meistr, yn rhoi cyfle i bob myfyriwr wneud cyflwyniad ar eu gwaith, ac yn rhoi cyfle i eraill ofyn cwestiynau, meddai Meg Elis.

Ac mae’n dweud fod y strwythur academaidd i’r gwaith ymchwil yn help ar gyfer y gwaith creadigol o ysgrifennu’r nofel.

“Mae modd asio’r ddau. Mae’r naill yn ffrwythloni’r llall,” meddai.

“A dwi’n teimlo’n freintiedig iawn mod i wedi cael fy nerbyn ar y cwrs.”

Roedd Alun Jones yn ei erthygl yn Llanw Llŷn yn ymateb i erthygl nodwedd yng nghylchgrawn Golwg, Mawrth 15 (‘Awduron yn mynd nol i’r coleg,’ t20), a oedd yn cynnwys cyfweliadau gyda sawl un sy’n dilyn y cwrs Sgrifennu Creadigol ym Mangor, sef Sian Northey, Meg Elis, Bethan Jones Parry a Cefin Roberts.