Jill Evans ASE
Mae  Aelod Seneddol Ewropeaidd o Gymru wedi protestio yn erbyn cytundeb i drosglwyddo gwybodaeth bersonol holl deithwyr awyr Ewrop i awdurdodau yn yr Unol Daleithiau heddiw.

Mae Jill Evans yn dweud fod y cynllun yn ymyrryd yn ormodol â phreifatrwydd unigolion ar draws Ewrop.

Heddiw, fe bleidleisiodd Senedd Ewrop o blaid y cynnig dadleuol i ganiatáu trosglwyddo gwybodaeth bersonol am holl deithwyr awyr rhwng Ewrop ac America i Adran Ddiogelwch Cartref yr Unol Daleithiau.

Ond mae Jill Evans yn mynnu nad yw’r Comisiwn Ewropeaidd wedi cyflwyno tystiolaeth ffeithiol i ddangos bod angen trosglwyddo’r holl wybodaeth bersonol hyn er mwyn atal troseddau terfysgol neu ddifrifol.

‘Manylion personol iawn’

Yn dilyn y bleidlais yn Strasbwrg, dywedodd Jill Evans, sydd hefyd yn Llywydd ar Blaid Cymru, fod y penderfyniad yn golygu bod “holl deithwyr i’r Unol Daleithiau’n cael eu proffilio, a gwybodaeth amdanyn nhw’n cael ei roi mewn i gategorïau a’i gadw am bymtheg mlynedd.”

Dywedodd y byddai’r wybodaeth hyn yn cynnwys manylion personol iawn fel “rhywioldeb, tarddiad hiliol, credoau crefyddol a manylion ynglŷn ag iechyd meddyliol a chorfforol.”

“Nifer fach iawn o bethau sydd yno o ran diogelu data,” meddai.

“Dydw i ddim yn credu fod angen casglu a chadw’r holl wybodaeth hyn ar deithwyr o Gymru a phob man arall oni bai y gallant  ddangos rheswm da iawn dros wneud hynny,” meddai.

Fe basiwyd y cynnig i drosglwyddo’r wybodaeth i’r Unol Daleithiau gyda mwyafrif aelodau’r Senedd yn gefnogol i’r cytundeb – sy’n dod i ben â blynyddoedd o wrthsefyll ceisiadau tebyg gan yr Unol Daleithiau.

Bydd y cytundeb newydd hwn yn golygu bod data ynglŷn â theithwyr, gan gynnwys eu henwau, cyfeiriadau, manylion cardiau credyd, a rhifau’r seddi, ar gael i awdurdodau America cyn i’r awyren adael y maes awyr.

‘Parchu’r hawl i breifatrwydd’

Ond mae’r cytundeb newydd yn mynd yn rhy bell, yn ôl Jill Evans.

“Mae cwmnïau awyrennau eisoes yn trosglwyddo data sylfaenol am deithwyr i awdurdodau’r Unol Daleithiau, ond mae’r cytundeb yma’n un llawer mwy ymwthiol,” meddai.

“Mae gyda ni hawl i breifatrwydd y dylid ei barchu. Mae’n iawn i basio gwybodaeth ar unigolion ymlaen er mwyn rhwystro ymosodiad posib gan derfysgwyr neu drosedd ddifrifol, ond dyw hynny ddim yn cyfiawnhau’r prosesu blanced a chadw data am deithwyr.

“Dydw i ddim yn credu fod hyn o fudd i fy etholwyr ac rwyf wedi cefnogi galwadau i gyfeirio hyn at y Llys Cyfiawnder i wirio a yw hyn yn unol gyda chyfreithiau presennol sy’n gwarchod ein hawliau.”