David Davies AS
Mae Aelod Seneddol o Gymru ac aelod o Gyngor Ewrop yn cefnogi cynlluniau i’w gwneud hi’n fwy anodd i farnwyr iawnderau dynol Ewrop ymyrryd ym materion Prydain.

Dywed David Davies AS fod cynlluniau Llywodraeth Prydain i leihau dylanwad Llys Ewrop dros achosion ym Mhrydain yn gwneud synnwyr. Mae’r Llywodraeth yn gobeithio sicrhau cytundeb mewn cynhadledd o gynrychiolwyr Cyngor Ewrop yn Brighton heddiw.

Dywedodd David Davies wrth Golwg360: “Mae angen diwygio grym Llys Iawnderau Dynol Ewrop, rhoi’r gair olaf i farnwyr ym Mhrydain, neu dynnu allan o gydnabod y llys yn llwyr.

“Mae Cyngor Ewrop yn gwneud gwaith pwysig o sicrhau democratiaeth ar draws Ewrop gyfan ond yn tanseilio’i waith da gyda phenderfyniadau twp y Llys. Dyw e ddim yn deg fod y gair olaf yn gorwedd gyda barnwyr yn Strasbourg ac nid ym Mhrydain.

“Bydda i’n codi hyn yng nghyfarfod Cyngor Ewrop ddydd Llun achos dwi wedi cael gwybod bod gen i slot siarad yno,” meddai Aelod Seneddol Mynwy.

‘Hawliau pobl yn bwysicach na hawliau Qatada’

Daw’r ymgais i gael cytundeb yn Brighton yn dilyn stŵr dros estraddodi’r clerig Mwslemaidd Abu Qatada. Mae ymdrechion Prydain i’w estraddodi i Wlad yr Iorddonen wedi cael eu hatal am y tro gan fod Abu Qatada wedi lansio apêl gyda Llys Iawnderau Ewrop.

“Mae angen anfon e nol i’r Iorddonen. Mae e wedi pregethu hiliaeth a rhagfarn felly pam bod ni’n amddiffyn ei hawliau dynol e?” meddai David Davies.

“Mae hawliau pobl i fyw yn rhydd o hiliaeth a rhagfarn yn bwysicach na hawliau dynol Abu Qatada.”