Elgan Morgan
Mae ymgeisydd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghaerdydd wedi cael ei feirniadu heddiw ar ôl iddo ddweud nad oedd pleidleisiau i’w hennill trwy gyhoeddi pamffledi dwyieithog.

Yn ôl y Cynghorydd Elgan Morgan, sy’n cynrychioli ward Plasnewydd yng Nghaerdydd, mae cynhyrchu pamffled dwyieithog yn wastraff lle ac arian i ymgeiswyr mewn rhai achosion.

‘Unieithog’

“Pan mae’n dod lawr i ni fel unigolion sy’n talu am daflenni ein hunain, mae neud rhywbeth yn unieithog, a chael dau ochr o’r papur, yn cael fwy o neges ar draws na rhywbeth sydd wedi cael ei gyfieithu i’r Gymraeg,” meddai.

Gwnaeth Elgan Morgan y sylwadau mewn sesiwn holi ac ateb gydag ymgeiswyr o Lafur, y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru, wedi ei drefnu gan Gymdeithas yr Iaith.

Yn ystod y drafodaeth, sydd i’w gweld ar y fideo isod, dywedodd y Cynghorydd y byddai’r “pleidiau i gyd yn ei wneud e os byddai pleidleisiau ynddo fe.

“Yn anffodus dyna’r sefyllfa, ac os nad dyna’r gwir, pam symo’r pleidiau i gyd yn neud e?” meddai.

“Byddech chi honestly yn pleidleisio i un blaid dros y llall achos bo ni’n cyfieithu nhw i’r Gymraeg?” gofynnodd.

‘Siom a phryder’

Yn ôl Catrin Dafydd, aelod o grŵp hawliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, a osododd y cwestiwn am gyfieithu pamffledi gerbron yr ymgeiswyr, mae’r ymateb yn siom mawr.

“Mae’n destun siom a phryder nad yw’r holl bleidiau yng Nghymru yn cynhyrchu deunydd etholiadol yn ddwyieithog. Flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae pobl yn tynnu sylw at achosion tebyg ond does dim fel petai yn newid.

“Mewn gwlad lle mae gan y Gymraeg statws swyddogol, mae gan bobl Cymru benbaladr yr hawl i ddisgwyl fod unrhyw ohebiaeth sy’n cyrraedd eu cartrefi gan bleidiau gwleidyddol ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg,” meddai.

“Mae’r iaith yn etifeddiaeth gyffredin i bawb sydd wedi dewis gwneud Cymru yn gartref iddyn nhw, a thrwy beidio â darparu deunydd yn ddwyieithog mae rhai pleidiau yn gwrthod trin y ddwy iaith yn gyfartal ac yn tramgwyddo hawliau iaith pawb o bobol Cymru.”

Y Dems Rhydd wedi ‘ymrwymo i’r Gymraeg’

Ond wrth ymateb i’r sylwadau gan eu cynghorydd heddiw, dywedodd llefarydd ar ran y Dems Rhydd eu bod wedi “ymrwymo i’r iaith Gymraeg”.

“Roedd un o’n Haelodau Cynulliad, Jenny Randerson, yn arwain y gad i gryfhau’r iaith Gymraeg pan oedd yn Weinidog Llywodraeth dros yr iaith. Mae ei chynllun ‘Iaith Pawb’ wedi cael effaith sylweddol ar ddatblygiad yr iaith.

“Brwydrodd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru hefyd i sicrhau fod Cymraeg yn cael y statws mae’n ei haeddu wrth ffurfio’r Mesur Iaith,” meddai.

“Mae’n siom nad yw Cymdeithas yr Iaith yn cymeradwyo ein hymrwymiad a’n record o sefydlu mwy o ysgolion Cymraeg yng Nghaerdydd,” meddai’r llefarydd.

Clip fideo o’r hystings: