Rhys Meirion
Mae ysgol yn Rhuthun wedi talu teyrnged i un o’u hathrawon a fu farw’r bore ma.

Roedd Elen Meirion yn chwaer i’r tenor Rhys Meirion, ac yn athrawes yn Ysgol Pen Barras yn Rhuthun.  Roedd hi hefyd yn arweinyddes côr yr ysgol.

Disgynnodd Elen Meirion i lawr grisiau ei chartref  fore dydd Sul a bu ar beiriant cynnal bywyd yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan.

Dywedodd prifathro Ysgol Pen Barras, Marc Lloyd Jones, fod marwolaeth Elen Meirion wedi bod yn sioc fawr i bawb yn yr ysgol.

Ychwanegodd: “Roedd Elen yn berson arbennig ac yn athrawes ysbrydoledig. Roedd ei chydweithwyr, y rhieni a’r plant yn hoff iawn ohoni.

“Rhoddodd gymaint i’r ysgol a mae ei cholled yn gadael bwlch mawr na ellir mo’i lenwi.”