Protest Bro Morgannwg y llynedd
Mae un o gynghorwyr sir Bro Morgannwg wedi mynegi ei bryder ynghylch  cynlluniau dadleuol i barhau i dyllu am nwy o’r ddaear gan ddweud y byddai’n gwneud “niwed amgylcheddol anfesuradwy”.

Mae adroddiad annibynnol ar gyfer Llywodraeth San Steffan yn argymell heddiw y dylai ffracio gael ei ganiatáu ym Mhrydain ar yr amod bod archwiliadau manwl yn cael eu gwneud o flaen llaw, a bod y cloddio yn cael ei fonitro.

Y llynedd gwrthododd cynghorwyr ym Mro Morgannwg â rhoi sêl bendith i gynllun i ffracio yn Llandŵ ym Mro Morgannwg. Ond mae na bryder nawr y bydd cynlluniau i dynnu nwy  yno yn parhau.

Fe fydd Arolygydd Cynllunio’r Cynulliad yn cynnal archwiliad ym mis Mai i gynlluniau cwmni Bridgend Coastal Oil and Gas.

Dywedodd Steffan Wiliam:  “Byddai ffracio’n gwneud niwed amgylcheddol anfesuradwy. Byddai’n cael effaith ar y dŵr sydd dan y ddaear trwy fod dŵr budr yn cael ei chwistrellu i’r graig.

“Mae ymchwil wedi ei wneud eisoes a ddaeth i’r casgliad y byddai ffracio yn Llandŵ yn niweidiol. Nid yw ffracio yn mynd i’r afael â phroblem ynni, ac mae ffyrdd llawer gwell o gael ynni yn ardal Bro Morgannwg, megis trwy ddefnyddio llanw’r môr”.

‘Peryglus’

Mae cwmni’r Co-operative yng Nghymru wedi mynegi eu pryderon nhw dros effeithiau iechyd y broses “beryglus” o ffracio. Dywedodd Ashley Drake, swyddog aelodaeth y Co-operative yng Nghymru: “Mae profion ffracio yn debygol o gynyddu wrth i gwmniau olew a nwy ruthro i gymryd mantais o’r ffynhonnell anghonfensiynol yma, a fydd o bosib yn llygru’r dŵr yn y ddaear ac yn tanseilio ymdrechion i leihau newid hinsawdd.”

Dywedodd fod angen buddsoddi arian ar ffyrdd cynaliadwy o greu ynni yn hytrach nag ar ffynhonnel “sy’n para 30 mlynedd yn unig”.

Mae ffracio – sef chwistrellu dŵr a thywod i’r ddaear er mwyn gwneud i nwy godi o’r graig islaw –  yn cael ei ystyried yn ddadleuol oherwydd yr effaith ar yr amgylchedd ac ar ddaeareg. Eleni tarodd dau ddaeargryn ardal Blackpwl, ar raddfa o 2.3 a 1.5, o ganlyniad i ffracio.

Mae’r adroddiad yn argymell y dylid atal y broses o dynnu nwy o’r graig os yw’n  achosi i’r ddaear grynu yn fwy na 0.5 ar raddfa Richter.

‘Pryder WWF’

Mae mudiad cadwriaethol y WWF wedi mynegi eu pryder nhw heddiw am ddatblygiadau ffracio.

Dywedodd Jenny Banks, swyddog ynni’r mudiad: “Meddylfryd presennol y Llywodraeth, yn amlwg, yw i  sugno pob diferyn o danwydd ffosil o’r ddaear. Nid yw hynny’n gyson o gwbl gyda thaclo newid yn yr hinsawdd.

“Os ydyn ni am leihau faint o nwyon rydym ni’n rhyddhau i’r amgylchedd yna mae’n rhaid gadael nwy siâl a thanwyddau anghonfensiynol eraill yn y ddaear,” meddai.