Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg
Mae enwau’r rhai sydd wedi cael eu penodi i Banel Cynghori Comisiynydd y Gymraeg wedi cael eu cyhoeddi heddiw.

Y bore ’ma, fe ddatgelodd y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg, Leighton Andrews, fod pedwar wedi cael eu penodi i Banel Cynghori cyntaf y Comisiynydd.

Yr aelodau sy’n dechrau ar eu swyddi yn syth, yw Dr Ian Rees, Virginia Isaac, Gareth Jones a’r Athro Gwynedd Parry.

Mae’r Dr Ian Rees, sydd wedi ei benodi’n Gadeirydd ar y Panel, yn hanu o Abertawe, er ei fod bellach wedi ymgartrefu yng Nghricieth. Mae wedi treulio rhan fwyaf ei fywyd proffesiynol ym maes addysg, ac wedi bod yn flaenllaw iawn wrth arwain Coleg Meirion-Dwyfor, gan gynnwys ei rôl bresennol yn bennaeth ar y Coleg.

Mae Virginia Isaac yn gyn-gyfarwyddwraig ar wasanaeth derbyn myfyrwyr UCAS ac yn ymddiriedolwr ar wyliau Cheltenham. Mae’n rhannu ei hamser rhwng Swydd Gaerloyw a De-Orllewin Cymru, ac mae’n Aelod o Gyngor Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant.

Mae Gareth Jones yn gyn-Aelod Cynulliad Plaid Cymru, ac yn gyn-lefarydd i’r Blaid ar addysg. Mae hefyd yn gyn-Brifathro ar Ysgol John Bright Llandudno ac yn Gynghorydd Tref Llandudno a Chyngor Conwy. Ar hyn o bryd mae’n un o bump Comisiynydd a benodwyd gan y Llywodraeth i wasanaethu gyda Chyngor Sir Ynys Môn.

Mae Gwynedd Parry yn Athro Cyfraith a Hanes Cyfreithiol, ac yn gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Hywel Dda ym Mhrifysgol Abertawe. Mae e hefyd yn fargyfreithiwr ac yn arbenigwr ar statws cyfreithiol y Gymraeg a chyfreitheg ieithoedd lleiafrifol.

Bydd y pedwar yn dal eu swyddi am gyfnod o dair blynedd.

‘Unigolion diddorol’

Mae’r pedwar wedi cael eu penodi dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, ac fe fydd Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg, yn ymgynghori â’r Panel fel rhan o’i swydd.

Wrth gyhoeddi aelodau’r Panel newydd heddiw, dywedodd Leighton Andrews ei fod yn falch gyda’r enwau fydd ynghlwm â’r gwaith.

“Bydd gan y Panel ran bwysig i’w chwarae o ran darparu cymorth a chyngor i’r Comisiynydd,” meddai.

Dywedodd y Comisiynydd, Meri Huws, fod y Panel wedi cael eu penodi “yn dilyn proses recriwtio allanol”.

“Nawr rydym mewn sefyllfa lle mae gen i Banel o unigolion diddorol i droi atynt pan fyddaf angen ymgynghori ar unrhyw fater.”