Poster ymgyrchwyr ym Mro Morgannwg
Mae proses ddadleuol o dyllu am nwy o’r ddaear yn debygol o barhau er bod na bryder y gallai achosi daeargrynfeydd bychain.
Mae adroddiad annibynnol ar gyfer Llywodraeth San Steffan yn argymell heddiw y dylai ffracio gael ei ganiatáu ym Mhrydain ar yr amod bod archwiliadau manwl yn cael eu gwneud o flaen llaw, a bod y cloddio yn cael ei fonitro.
Os ydy’r broses o dynnu nwy o’r graig yn achosi i’r ddaear grynu yn fwy na 0.5 ar raddfa Richter yna dylai’r broses stopio, medd yr adroddiad.
Fe fydd cyfnod o ymgynghoriad o chwe wythnos ynglyn a’r adroddiad, gyda Adran Ynni a Newid Hinsawdd (Decc) yn cyflwyno canllawiau pendant wedi hynny.
Mae ffracio – sef chwistrellu dŵr a thywod i’r ddaear er mwyn gwneud i nwy godi o’r graig islaw – yn cael ei ystyried yn ddadleuol oherwydd yr effaith ar yr amgylchedd ac ar ddaeareg. Eleni tarodd dau ddaeargryn ardal Blackpwl, ar raddfa o 2.3 a 1.5, o ganlyniad i ffracio.
Bro Morgannwg
Y llynedd gwrthododd cynghorwyr ym Mro Morgannwg â rhoi sêl bendith i gynllun i ffracio yn Llandŵ ym Mro Morgannwg. Mae Arolygydd Cynllunio’r Cynulliad yn cynnal archwiliad ym mis Mai i gynlluniau cwmni Bridgend Coastal Oil and Gas i dynnu nwy yn Llandŵ ac mae ymgyrchwyr lleol yn bryderus y bydd y cynllun yn parhau.
Mae mudiad The Vale says No! wedi dweud bod gan ffracio “sgil-effeithiau arswydus i fywyd gwyllt a phobl”.
‘Pryder WWF’
Mae mudiad cadwriaethol y WWF wedi mynegi eu pryder nhw y bore ‘ma am ddatblygiadau ffracio.
Dywedodd Jenny Banks, swyddog ynni’r mudiad: “Meddylfryd presennol y Llywodraeth, yn amlwg, yw i sugno pob diferyn o danwydd ffosil o’r ddaear. Nid yw hynny’n gyson o gwbl gyda thaclo newid yn yr hinsawdd.
“Os ydyn ni am leihau faint o nwyon rydym ni’n rhyddhau i’r amgylchedd yna mae’n rhaid gadael nwy siâl a thanwyddau anghonfensiynol eraill yn y ddaear,” meddai.