Dywedodd Tata Steel Europe wrth Golwg360 na allen nhw roi “mwy o gig ar esgyrn cyhoeddiad” Prif Weinidog Cymru heddiw bod y cwmni am fuddsoddi £800m yng Nghymru dros y pum mlynedd nesaf.

Daeth cyhoeddiad Carwyn Jones  ar ol iddo gyfarfod is-gadeirydd y cwmni dur yn India yn ystod ei daith fasnach â’r wlad wythnos diwethaf. Dywedodd Carwyn Jones y byddai manylion y buddsoddiad yn dod yn glir yn ystod y misoedd nesaf a’i fod wedi cael arddeall gan y cwmni mai “arian newydd” oedd y buddosoddiad.

Mae Tata eisoes wedi cyhoeddi buddsoddiad o £238m ar gyfer gweithfeydd dur Port Talbot. Cafodd y buddsoddiad  ei gyhoeddi’n wreiddiol nôl yn Ebrill 2011 – £185m ar gyfer ailadeiladu ffwrnais rhif 4 Port Talbot a £53m ar gyfer gwasanaeth oeri ar gyfer un o’r safleoedd cynhyrchu dur.

Ond dywedodd Bob Jones, llefarydd ar ran Tata Steel Europ heddiw: “Nid ydym yn medru rhoi mwy o gig ar esgyrn cyhoeddiad Carwyn Jones nes bod y penderfyniadau wedi cael eu gwneud gan y cwmni yn derfynol.

“Byddai buddsoddiad o £800m i’w ddisgwyl ar gyfer safle o faint Port Talbot dros gyfnod o bum mlynedd,” ychwanegodd.

Dywedodd llefarydd Tata ym Mhort Talbot fod penaethiaid y cwmni yn yr India wedi cyflwyno “gweledigaeth y cwmni ar gyfer buddsoddi ym Mhort Talbot” ac mai dyna sut cyrhaeddodd Carwyn Jones at y ffigwr o £800m.

“Nid ydym mewn sefyllfa i ddarparu dadansoddiad o’r buddsoddiad ar hyn o bryd,” meddai Robert Dangerfield.

Pwll glo dwfn

Dywedodd bod ymchwil yn parhau ym Margam ar dyllu pwll glo dwfn a fydd yn darparu glo i weithfeydd dur Port Talbot.

“Mae £500m wedi cael ei glustnodi ar gyfer cynllun y pwll glo – sydd ar wahan i’r buddsoddiadau eraill ym Mhort Talbot – ac mae’n brosiect heriol iawn. Mae’n mynd yn dda ond nid oes amserlen bendant gyda ni ar gyfer y gwaith ar hyn o bryd.”

Mae gweithfeydd dur Tata ym Mhort Talbot yn cynhyrchu 4 miliwn o dunnelli o ddur craidd yn flynyddol. Mae safle mwyaf y cwmni, yn yr India, yn cynhyrchu dros 7 miliwn o dunnelli yn flynyddol.