Wrth i Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr ddweud bod siroedd Lloegr sy’n ffinio â Chymru bellach yn “sych”,  mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru wedi rhybuddio nad oes digon o ddŵr gan Gymru i helpu’r ardaloedd hynny.

Dywedodd yr Asianateth yng Nghymru bod lefelau dŵr rhai o afonydd Cymru yn “isel iawn” ac nad oedd modd cymryd mwy o ddŵr allan o’r afonydd “heb niweidio’r amgylchedd”.

Yn ne-ddwyrain Cymru dywed Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru fod afonydd Gwy, y Wysg ac Ebwy ar eu lefelau isaf erioed am yr adeg yma o’r flwyddyn, a bod afonydd Taf a Mynwy hefyd yn isel.

Yng ngweddill Cymru mae’r rhan fwyaf o afonydd yn is na’r arfer, ac mae afonydd Dyfrdwy, Clwyd a Cheiriog yng ngogledd ddwyrain Cymru yn arbennig o isel, ynghyd â’r Nedd yn y de a’r Ystwyth yn y canolbarth.

Roedd y deufis diwethaf yn sych iawn, a lefel y glaw ym mis Mawrth oedd y pumed lefel isaf ers can mlynedd yng Nghymru.

Ymestyn ardal sychder swyddogol

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr wedi ymestyn yr ardal sychder swyddogol i gynnwys 17 sir newydd, gan gynnwys Caerloyw, Henffordd, Bryste ac Amwythig.

Gall y prinder dŵr bara tan y Nadolig, medd yr asiantaeth. Mae’n dweud ei bod yn annhebygol bydd cyflenwadau dŵr i gartrefi yn cael eu heffeithio, ond bod angen i ddefnyddwyr fod yn rhesymol wrth ddefnyddio dŵr.

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr yn gweithio gyda’r cwmniau dŵr rhag ofn y bydd trydydd gaeaf sych yn 2012/13. Mae’r cwmniau dŵr yn edrych ar leihau faint o ddŵr sy’n gollwng o bibau, a sut i gael dŵr ychwanegol, trwy fod cwmniau dŵr yn helpu ei gilydd.

Yr wythnos ddiwethaf cyhoeddodd cwmni dŵr Severn Trent, sy’n berchen ar gronfeydd Efyrnwy a Chlywedog yng nghanolbarth Cymru, eu bod nhw’n bwriadu gwerthu dros 30 miliwn o litrau yn ddyddiol i rannau mwyaf sychedig Lloegr.