Kirsty Williams
Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn lansio’u hymgyrch etholiadau lleol yng Nghaerdydd y bore ‘ma.

Mae arweinydd y blaid yng Nghymru, Kirsty Williams, yn cwrdd gydag arweinwyr cyngor Caerdydd er mwyn lansio’r ymgyrch.

Ar hyn o bryd mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn arwain ar gynghorau Caerdydd, Abertawe a Wrecsam, ond mae gostyngiad mawr wedi bod yn nifer ei hymgeiswyr eleni o’i gymharu â’r etholiadau lleol bedair blynedd yn ôl, ac mae’r blaid yn disgwyl i weld a fydd y glymblaid gyda’r Ceidwadwyr yn San Steffan yn effeithio ar ei sefyllfa.

Dywed Kirsty Williams ei bod yn falch iawn o record y Democratiaid Rhyddfrydol ar gynghorau Cymru.

“Rwy’n hynod o falch o’n record ni ar gynghorau lleol ar draws Cymru. Pan fyddwch yn ethol cynghorydd o’r Democratiaid Rhyddfrydol fe gewch chi rywun sy’n llais i’r gymuned yn neuadd y sir, ac nid llais neuadd y sir yn y gymuned.

“Ry’n ni’n gwybod beth yw blaenoriaethau pobol leol achos mae ein cynghorwyr a’n hymgyrchwyr wedi’u gwreiddio yn y gymuned.

“Ry’n ni’n gwybod bod hi’n galed ar bobol ar hyn o bryd. Dyna pam bod cynghorau sy’n cael eu harwain gan y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi cadw treth y cyngor yn isel.

“Yn y Cynulliad rydym ni wedi sicrhau fod plant o gefndiroedd tlotach yn cael cymorth ac yn San Steffan ry’n ni wedi rhoi arian ym mhocedi pobl trwy godi trothwy’r dreth incwm”.

Treth y cyngor

Ym maniffesto’r blaid ar gyfer Caerdydd mae’n nhw’n addo cadw treth y cyngor yn isel, datblygu gorsaf fysiau newydd, a gwario £44m ar heolydd a phalmentydd dros y pum mlynedd nesaf.

Mae arweinydd cyngor Caerdydd, Rodney Berman, wedi pwysleisio cyfraniad ei blaid i dŵf addysg Gymraeg drwy oruchwylio agor pum ysgol gynradd Gymraeg newydd ac ysgol uwchradd Gymraeg newydd a fydd yn cael ei hagor yn hwyrach eleni.

Fe fydd y bleidlais yn cael ei chynnal ar 3 Fai.