Mae cwmni dur Tata wedi cyhoeddi heddiw ei fod am fuddsoddi £800 miliwn yng Nghymru. Daw’r cyhoeddiad ddyddiau’n unig ar ôl i’r Prif Weinidog Carwyn Jones gwrdd gyda chadeirydd Tata ym Mumbai.

Yn ystod taith fasnach Llywodraeth Cymru i India dywedodd Carwyn Jones fod cwmni dur Tata yn “bwysig iawn” i economi Cymru,  a’i fod wedi cael cyfarfod “adeiladol” gyda Balasubramanian Muthuraman, cadeirydd Tata. Mae gan gwmni dur Tata safleoedd ym Mhort Talbot, Llanwern a Glannau Dyfrdwy.

Heddiw croesawodd Carwyn Jones gyhoeddiad Tata: “Roedd Mr Muthuraman wedi esbonio i fi fod Tata am fuddsoddi £800 miliwn yn eu safleoedd nhw yng Nghymru dros y pum mlynedd nesaf .

“Mae wedi talu teyrnged i safon y gweithlu yng Nghymru ac roedd yn cydnabod pa mor bwysig mae’r bartneriaeth gyda Llywodraeth Cymru er mwyn magu hyder wrth wneud penderfyniadau hir-dymor.

“Mae hyn yn newyddion gwych i’n cymunedau ni ac yn bleidlais o hyder yng Nghymru,” ychwanegodd Carwyn Jones.